Cyhoeddi Hacio'r Iaith 2015!

llun gan Llef

Mae’n falch iawn gen i ddweud, y bydd chweched anghynhadledd Hacio’r Iaith yn digwydd ym Mangor ar Ddydd Sadwrn y 7fed o Fawrth 2015.

I’r rhai ohonoch chi fuodd llynedd, mae hi yn yr un lle, yn y Ganolfan Fusnes yn y Brifysgol ac yn swyddfeydd y Ganolfan Technoleg Iaith. Mawr ddiolch iddyn nhw am drefnu lleoliad, bwyd a chroeso gwych i ni ddigidolion awchus.

I’r rhai sydd erioed wedi mynychu Hacio’r Iaith bydd croeso cynnes i bawb sy’n licio trafod a dysgu am Gymraeg mewn technoleg; gan gynnwys artistiaid, llenorion, blogwyr, datblygwyr meddalwedd, ymchwilwyr, myfyrwyr, ymgyrchwyr a mwy.

Mae’r wici ar gyfer Hacio’r Iaith 2015 yn fyw ar Hedyn, felly ewch draw, golygwch, ac ychwanegwch eich syniadau. Fel arall, mae’r sylwadau ar agor isod.

Mae Hacio’r Iaith am ddim ond rydyn ni’n gofyn i bawb sydd yn bwriadu dod i gofrestru er mwyn sicrhau bod digon o le / coffi / bwyd / socedi i bawb.

COFRESTRA YMA!

2 am bris 1!

Yn wahanol i llynedd mae’r Ganolfan Technoleg Iaith yn cynnal cynhadledd y diwrnod cyn Hacio’r Iaith ar y 6ed dan y teitl Trwy Ddulliau Technoleg. Mae’r gynhadledd rhyngwladol hwn yn lansio Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru a’n cynnwys siaradwyr gwadd o Dde Affrica, yr Alban, Iwerddon, Catalonia a Gwlad y Basg.

Datganiad | Amserlen | Archebu Tocyn (am ddim)

Felly mae ganddon ni nid un ond dau ddiwrnod o hwyl techaidd i chi.

A dwi’n siwr bydd cyri traddodiadol ar y nos Wener hefyd.

Welai chi gyd ym Mangor, aye!

8 sylw

  1. Hoffwn i ddysgu mwy am PhotoShop / GIMP.

    Dw i’n chwarae gyda dylunio ers blynyddoedd ond hoffwn i wneud mwy o stwff sy’n edrych yn cwl, e.e. sut i greu poster neis ar gyfer grŵp gwirfoddol. (Paid â phoeni, fydda i byth yn cystadlu gyda dylunwyr proffesiynol!)

    Oes ‘na rhywun sy’n fodlon rhedeg syrjeri neu weithdy bach?

  2. Sut i recordio, golygu a dosbarthu podlediadau safonol fasa ar fy wishlist i. Dwi’n obsesd efo nhw ar hyn o bryd. A gweithdy Vine. Sawl Vine allwn ni gyd-gynhyrchu mewn awr?

  3. Dwi’n bwriadu cynnal sesiwn, “Gall Unrhyw Un Gyfieithu”. Hefyd, wedi chwarae gydag Audacity a Blender ddoe i recordio a rhoi sain newydd ar y fideo hwn.

    Mae Blender yn hollol wych! Bydd sesiwn arall arno, o bosib.

Mae'r sylwadau wedi cau.