Copïo yn Firefox 35

Mae’n bosib eich bod wedi sylwi ar wall sydd wedi dod i’r amlwg yn y cyfieithiad Cymraeg o Firefox 35. Mae’r gwall yn codi wrth i chi ddefnyddio’r cyfuniad Ctrl/Cmd a C er mwyn copïo darn o destun yn y ffenestr. Yn lle gwneud hynny mae’r copïo’r dudalen gyfan.

Mae modd defnyddio’r dull canlynol i oresgyn hyn: amlygu’r testun i’w gopïo ac yna clicio arno gyda botwm de’r llygoden a dewis Copïo (Windows, dwi’n cymryd ei fod rhywbeth yn debyg ar y Mac).

Er ein bod yn edrych ar ei gywiro ar gyfer Firefox 35, mae’n fwy tebygol y bydd nôl yn iawn ar gyfer Firefox 36, ymhen rhyw 5 wythnos. Ymddiheuriadau am hyn.

14 sylw

  1. O’n i’n meddwl elle mai jyst rhywbeth o’i le ar fy hen gyfrifiadur i oedd o, felly diolch yn fawr iawn am esbonio cyn i mi dreulio amser yn ceisio’i ddatrys fy hun, Rhos.

  2. Diolch. ‘Da fi mae Firefox yn cadw’r dudalen pan rwy’n gwasgu “CTRL+C” yn lle copïo. Doedd yr ychwanegyn hwn ddim yn helpu llawer chwaith ( https://github.com/ttaubert/customizable-shortcuts ). O’n i’n gallu newid y weithred cadw at CTRL+S ond yn methu cael CTRL+C i gopïo.
    Yr unig peth oedd yn gweithio oedd troi at y fersiwn Saesneg!
    Hapus i wybod nad oes na rywbeth o’i le ‘da fy nghyfrifiadur.

  3. Hefyd, anghofiais sôn nad yw Ctrl+Alt+W (i wirio testun yn Cysill) yn gweithio yn Firefox ar hyn o bryd. Rhos, er gwybodaeth, maen nhw’n gweithio’n iawn ar destun mae defnyddiwr yn ei roi mewn blwch ffurflen, ond ddim ar destun yn y dudalen ei hun.

  4. Yn falch iawn i glywed bod hyn yn cael ei gywiro – rwy’n anghofio o hyd nad yw CTRL-C yn gweithio! Digwyddodd rhywbeth tebyg beth amser yn ôl, os cofiaf yn iawn, lle newidiwyd y ‘shortcuts’ yn y fersiwn Cymraeg.

  5. Wedi gorfod symud nol i’r Firefox Saesneg oherwydd hyn! 🙁

    Oes modd ychwanegu unit test at god Firefox fel bod hyn ddim yn digwydd ‘to? Mae ‘di digwydd sawl tro rwan do!

  6. Syniad da, Patrick! Pam nes i’m meddwl amdano fy hun?! Wedi cael llond bol gweld y ffenest “cadw” wrth geisio gwneud rhywbeth arall.

  7. Ah! Dim jyst fi sy’n cael y broblem! Mae hyn wedi bod cymaint o boen ers y diweddariad. Yn fy nghwaith dwi aml yn copio a phastio testun o dudalennau we – heb son am gyfrannu/golygu testun i Wicipedia, copio a phastio o Cysill/Cysgair ar lien. Wedi stopio defnyddio Firefox beallch ac yn defnyddio Safari. Pechod mawr

  8. Dwi wedi diweddaru i Firefox 37 heddiw ac mae’n ymddangos bod y broblem hon yn ei ôl, yn anffodus. Awgrymaf ddiweddaru teitl y cofnod hwn 😉

  9. @Aled – cytuno. Dwi’n cael problem gyda FF 37 hefyd.
    Mae rili angen y unit tests ‘ma er mwyn stopio hyn rhag digwydd!

  10. Diolch yn fawr am yr esboniad – ro’n i’n meddwl bod rhywbeth yn bod ar fy nghyfrifiadur. Roedd hyn yn broblem fawr i fi. Dw i’n defnyddio ‘copïo’ yn helaeth gyda Moodle, a dyw Moodle ddim yn caniatáu de-glicio i gael y ddewislen gopïo – rhaid defnyddio cmd+c (ar y Mac). Felly, roedd rhaid i fi droi o Firefox at Safari am gyfnod.
    Ac yn sydyn, dyma’r broblem yn cael ei gywiro yn wyrthiol! Nawr dw i’n sylweddoli bod y broblem wedi ei datrys yn Firefox 36.0.4. Ond, gan fod Firefox wedi diweddaru yn awtomatig, dyma’r broblem wedi dychwelyd eto gyda fersiwn 37.0.1. ‘Nôl i Safari nawr, tan i hwn gael ei drwsio.

    Ond diolch am gael porwr Cymraeg yn y lle cynta. Can ddiolch am eich gwaith.

    Mal 🙂

  11. Diolch yn fawr am yr esboniad – ro’n innau hefyd yn dechrau meddwl mae ar fy nghyfrifiadur roedd y nam. Mae hyn yn broblem fawr i fi, dw i’n gwneud llawer iawn o gopïo a gludo gyda’r safle Moodle uchod ac mae’n rhaid defnyddio cmd+c (ar y Mac) i gopïo gan nad yw Moodle yn caniatáu de-glicio ar gyfer y weithred hon. Felly, fe fu’n rhaid i fi adael Firefox a defnyddio Safari am sbel. Yna, un diwrnod, megis wyrth, dyma popeth yn gweithio’n iawn eto ar Firefox. Nawr dw i’n sylweddoli bod Firefox wedi ei ddiweddaru yn awtomatig i fersiwn 36.0.4 a’r byg wedi ei gywiro. Yn anffodus, mae e nawr wedi ei ddiweddaru i fersiwn 37.0.1 ac mae’r broblem wedi ail-ymddangos. Gobeithio y caiff hyn ei drwsio cyn hir.
    Mae’n ardderchog bod ‘da ni Firefox yn Gymraeg yn y lle cynta – ‘dyn ni’n wir gwerthfawrogi’ch gwaith gyda hyn.

    Hwyl,

    Mal

  12. Helo Maldwyn, aeth dy sylwadau i’r sbam – mae’n flin gyda fi. Dw i wedi cymeradwyo’r ddau bellach. Ni fydd problem gyda sylwadau gan dy gyfeiriad e-bost o hyn ymlaen.

Mae'r sylwadau wedi cau.