Siopa Dolig? Beth am dabled Windows Cymraeg am £99?

Eisiau prynu anrheg i chi eich hun neu i rhywun sydd a diddordeb mewn gadgets neu dechnoleg o rhyw fath ac yn benboeth am y Gymraeg, wel dyma i chi eich anrhegion delfrydol. Mae pawb eisiau tabledi neu gliniaduron ac mae Microsoft nawr yn cefnogi eu darparwyr i lansio rhai am brisiau deniadol iawn ac mae nhw i gyd i’w cael yn Gymraeg.
Llechen HP 7
Os hoffech chi gael tabled, beth am yr HP Stream 7 – £99 ar wefan HP neu yn eich Currys/PC World lleol. Sut beth yw’r tabled? Wel, mae wedi cael adolygiadau da iawn o ystyried ei bris – mae’r iPad Mini1 yn mynd am £199 a’r iPad Mini3 am £319, felly mae modd prynu dau neu dri HP Stream 7 am bris un Mini iPad.

Gliniadur HP Sream 11

Ym myd gliniaduron, mae HP newydd lansio’r HP Stream 11 ac mae’r HP Stream 13 ar y ffordd, am £197 a £229. Mae’r rhain wedi cael adolygiadau da; mae nhw o ansawdd da, perfformiad cystadleuol, prisiau anhygoel o rhesymol ac, yn fwy pwysig i ni, ar gael yn Gymraeg.

Mae’r tabledi a’r gliniaduron yn cynnwys blwyddyn o danysgrifiad i Office365 ac 1TB o le ar OneDrive. Mae modd defnyddio Office365 yn Gymraeg.

Mae’n siŵr o fod yn werth cael golwg arnyn nhw…

Nadolig Llawen! 🙂

3 sylw

  1. Ydy unrhyw un wedi trio un o’r tabledi Windows Cymraeg?

    Byddai hi’n braf gwybod os maen nhw yn dda, pa apiau eraill sydd ar gael, ayyb.

  2. Mae nhw’n defnyddio Windows 8.1 gyda Bing. Mae’n debyg nad yw Microsoft yn codi ar wneuthurwyr am y drwydded hon. Y bwriad yw cystadlu gyda Chromebooks sydd wedi bod yn boblogaidd. Am y math yma o brisiau a bod y Gymraeg ar gael mae nhw’n edrych yn dda – gwell na’r Chromebooks.

    Ces i olwg ar y tabled y diwrnod o’r blaen yn Currys, Caer ac roedd o wneuthuriad da, cynllun braidd yn di-fflach ac yn reit ysgafn. Roedd y feddalwedd yn symud yn sydyn a rhwydd. Gan ei fod yn Windows 8.1 safonol ac nid RT, mae’n gallu rhedeg meddalwedd arferol Windows (Cysgliad 😉 ), ond fyddwn i ddim yn disgwyl i gemau redeg yn dda arno.

    Mae na fwy o wybodaeth am gampau/datblygiadau diweddar Microsoft ar wefan Paul Thurrott – http://winsupersite.com/

Mae'r sylwadau wedi cau.