Geiriadur Bangor – geiriadur.bangor.ac.uk

Geiriadur Bangor

Erbyn hyn mae Geiriadur y BBC nôl yn fyw dan ei enw newydd Geiriadur Bangor. Mae wedi’i letya ar wefan Prifysgol Bangor ar http://geiriadur.bangor.ac.uk/. Cyfuniad yw e mewn gwirionedd o eiriadur cyffredinol Cysgair, sy’n rhoi geirfa gyffredin y Gymraeg a’r Saesneg, a Y Termiadur Addysg, sy’n rhoi termau wedi’u safoni ar gyfer addysg ysgol a cholegau addysg bellach.

Roeddwn i’n betrus iawn am eu cyfuno, fel a wnaed yn ein gwaith gwreiddiol i’r BBC. Roedd hyn am ein bod yn ceisio cael pobl i ddeall y gwahaniaeth rhwng geiriadur disgrifiadol fel Cysgair ar y naill law (lle mae rhyddid i bobl ddewis eu geirfa allan o holl gyfoeth yr iaith), a geiriadur rhagnodol fel Y Termiadur Addysg ar y llaw arall (lle mae angen safoni termau technegol er mwyn cyfathrebu clir).

Ond mae’r ymateb ers i’r BBC dynnu’r geiriadur wedi dangos fod yna le i eiriadur gyda rhyngwyneb hawdd ei ddefnyddio fel hwn, sy’n gyfuniad o eiriau cyffredin a’r eirfa dechnegol ddiweddaraf yn yr iaith. Byddwn ni yn yr Uned Technolegau Iaith yn ceisio’i gynnal a’i ddiweddaru o hyn allan felly o’n hadnoddau ein hunain. Diolch i Dewi a Gruff o’r Uned am eu holl waith yn ei adfer a’i roi ar lein.

Ar ran Delyth Prys.

3 sylw

  1. Gwaith da. Mae’n braf cael:
    1. cyfeiriadau uniongyrchol i eiriau
    2. Hefyd mae’n gweithio ar fy llechen a ffôn.

    Dyma ddau beth sydd ddim yn bosib gyda GPC er bod GPC yn cynnwys diffiniadau Cymraeg.

  2. Oes modd i’r geiriadur yma rhedeg berfau hefyd? Roedd geiriadur y BBC yn wych am hyn. Weithiau mae’n anodd pan rydym yn gaeth i ddafodiaeth i ysgrifennu gan ddefnyddio berfau cryno.

Mae'r sylwadau wedi cau.