WordPress 4.0 Cymraeg

Beth sy’n newydd? – dyma’r blyrb gan WordPress:

Mae WordPress 4.0 yn cynnig profiad ysgrifennu a rheoli mwy llyfn.
Rheoli eich cyfrwng yn rhwydd
Gallwch weld eich cyfrwng o fewn un grid hardd hir. Mae rhagolwg manylion newydd yn ei gwneud hi’n haws edrych ar a golygu eich cyfrwng yn eu trefn.

Mae gweithio gyda mewnblaniadau yn haws nag erioed
Gludwch URL eich YouTube i linell newydd a gwyliwch e’n troi’n fideo mewnblanedig. Nawr gwnewch yr un peth gyda thrydariad. Mae mewnblannu nawr yn brofiad gweledol. Mae’r golygydd yn dangos gwir ragolwg o’ch cynnwys mewnblanedig, sy’n arbed amser a rhoi hyder i chi.

Rydym wedi ehangu’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnal yn rhagosodedig, hefyd — gallwch fewnblannu fideos o CollegeHumor, rhestrau chwarae YouTube, a sgyrsiau TED. Gwiriwch y mewnblaniadau mae WordPress yn eu cynnal.

Canolbwyntio ar eich cynnwys
Mae ysgrifennu a golygu’n llyfnach a mwy cynhwysol gyda golygydd sy’n ehangu wrth i chi ysgrifennu, gan gadw’r offer fformatio ar gael drwy’r adeg.

Canfod yr ategyn cywir
Mae yna fwy na 30,000 ategyn rhad a chod agored ar gael yn y cyfeiriadur WordPress. Mae WordPress 4.0 yn ei gwneud hi’n haws i ddod o hyd i’r un sydd ei angen arnoch gyda metrig newydd, gwell chwilio a phrofiad pori mwy gweledol.

Diolch i Carl am ei help gyda hwn.

4 sylw

  1. Dwi’n edrych mlaen i weld yr holl welliannau hyn. Diolch am eich ymdrechion.

    Mae’n ymddangos bod problem ar hyn o bryd. Er bod “modd diweddaru i WordPress 4.0–cy yn awtomatig”, pan dwi’n clicio “Diweddaru Nawr”, fersiwn 3.9.3 sy’n cael ei osod ac mae’r hysbys “Mae WordPress 4.0 ar gael! Diweddarwch nawr!” yn ymddangos o hyd.

  2. Wedi ailadeiladu’r pecyn ac i weld yn iawn nawr. Rhowch gynnig ar ddiweddaru i 4.0 mi ddylai fod yn iawn, os nad gadewch i mi wybod.
    Dwi di cail ymholiad ynghylch bbPress. Oes na rhywun wedi gwneud gwaith cyfieithu hwn yn y gorffennol?
    Rhos

Mae'r sylwadau wedi cau.