Rhyddhau Firefox Android Cymraeg

Mae’r porwr gwe Cymraeg cyntaf ar gyfer ffonau symudol a thabledi – Firefox Android, newydd ei ryddhau. Mae Firefox Android ar gael o’r Google Play Store ar gyfer pob dyfais sy’n rhedeg Android 2.2 neu well.

Mae Firefox Android yn borwr gwe rhydd a rhad sy’n rhoi grym y we agored yn eich dwylo. Mae’r porwr yn gyflym, hawdd ei ddefnyddio a hawdd ei gyfaddasu gyda’r nodweddion diogelwch a phreifatrwydd i’ch helpu i fod yn ddiogel ar y we.

Rhyngwyneb a dewislen offer Firefox Android

Rhyngwyneb a Dewislen Firefox Beta

Cyfarwyddiadau gosod:

Gwiriwch i weld os yw Firefox Android yn gyfaddas â’ch dyfais.

Mae Firefox Android angen Android 2.2 neu ddiweddarach a thua 29 MB o le sbâr. Mae’n rhedeg orau ar ddyfeisiau gydag o leiaf 384 MB o RAM. Mae Mozilla’n darparu rhestr o ddyfeisiau sy’n cael eu cynnal.

Gosodwch Firefox Android o’r Google Play Store

Firefox Beta - Dewis iaith

Bydd yr ap yn agor yn Saesneg. I ddewis y rhyngwyneb Cymraeg, ewch i Settings>Language. Bydd dalen Browser Language a System Default yn ymddangos. Pwyswch ar System Default a bydd dewis o ieithoedd yn ymddangos. Sgroliwch lawr i Welsh. Pwyswch ar y cylch bach nes ei fod yn troi’n las. Bydd y sgrin yn newid i’r Gymraeg. Bosib bydd angen ailgychwyn y rhaglen neu hyd yn oed y ddyfais i gael y Gymraeg i ymddangos. Mwynhewch!

Apple – Oherwydd natur trwyddedu apiau Apple nid yw’r ap ar gael ar gyfer dyfeisiau Apple.

Mae yna ragor o wybodaeth am waith Mozilla ar eu gwefan Cymraeg.

 

 

3 sylw

  1. Gan fy mod yn defnyddio ei rhagflaenydd arbrofol, Aurora, yn Gymraeg ers talwm, dyw hwn ddim yn teimlo yn newydd ond yn hytrach yn rhywbeth sydd wedi bod yn hir yn dod. Da i’w gweld a’i gael o’r diwedd a diolch i Rhos am ei ymroddiad i’r cyfieithiad.

    Pan osodais i hwn, mi agorodd yn y Gymraeg yn awtomatig. Mae’n ymddangos felly os ydych wedi gosod locale eich ffôn i’r Gymraeg, bod hyn yn helpu. Yn anffodus, nid yw Google yn cynnwys y Gymraeg yn dewis localau ar Android, ond mae’n bosib gosod “custom locale” sy’n cynnwys y Gymraeg gan lawrlwytho aplen pwrpasol. Rwy’n defnyddio MoreLocale 2. Mae datblygwyr aplenni Android yn gallu gweld rhywfaint o wybodaeth am ddyfeisiau defnyddwyr yr aplenni, gan gynnwys iaith y ddyfais. Gan osod eich locale i’r Gymraeg, mae datblygwyr felly yn gweld bod nifer yn defnyddio ac felly bod galw am bethau yn Gymraeg.

  2. Rwy di bod yn defnyddio Firefox i Android yn Gymraeg ers peth amser nawr hefyd.

    Ac, fel Aled, rwy’n defnyddio MoreLocale 2, sy’n newid iaith rhai aplenni, yn ogystal â’r dyddiad ac amser, i’r Gymraeg. Ond yn anffodus, dyw fersiynau diweddaraf Android (e.e. 4.4), ddim yn caniatáu i aplenni newid locale y ddyfais bellach. Bu’n rhaid i fi newid hawliau’r aplen drwy ddefnyddio cyfrifiadur (e.e. drwy neud hyn: http://droider.eu/2013/11/03/how-to-get-morelocale2-to-work-on-4-2-and-above/) sydd yn lot o drafferth. Tra bod cwmnïau fel Mozilla’n cymryd camau i’r cyfeiriad cywir, mae Google ac Android yn ein tynnu yn ôl o hyd.

  3. Mae datblygwr ap calendr ar gyfer Android (sydd yn ymddangos yn tyfu i fod yn boblogaidd iawn, gyda rhyngwyneb ‘Android L’) yn galw am bobl i’w gyfieithu yma: https://osban91.oneskyapp.com/collaboration/ .

    Mae’r rhan fwyaf o’r llinynau Cymraeg (cyfanswm o rhyw 600 ohonyn nhw) wedi cael eu cyfieithu, ac yn barod i gael eu cymeradwyo gan ddefyddwyr eraill – efallai bydd un ap yn ychwanegol ar gael yn Gymraeg wedyn!

    Dyma’r ap, er gwybodaeth: https://play.google.com/store/apps/details?id=com.underwood.calendar_beta

Mae'r sylwadau wedi cau.