Dim ond 10% o ymwelwyr Hacio’r Iaith yn dewis Cymraeg (Ydych chi wedi Cymreigio eich porwr?)

Mae gosodiad iaith cynnwys yn nodwedd bwysig ar eich porwr (e.e. Firefox, Chrome).

Dw i wedi bod yn edrych at ddata yn ystod hanes y wefan Hacio’r Iaith ers Ionawr 2010, sy’n ymddangos bod 53% o ymweliadau yn ffafrio Saesneg UDA – yn ddiarwybod i’r rhan fwyaf dw i’n credu. Mae 29% yn ffafrio Saesneg Prydain Fawr.

Dim ond 10% (cy a cy-gb) sydd yn dewis Cymraeg.

Rhif Cod iaith Nifer o ymweliadau Cyfran
1. en-us 21,718 53.48%
2. en-gb 11,794 29.04%
3. cy 2,181 5.37%
4. cy-gb 1,976 4.87%
5. en 1,754 4.32%
6. ru 164 0.40%
7. en_gb 129 0.32%
8. pt-br 113 0.28%
9. fr 72 0.18%
10. de-de 63 0.16%

Y cynnwys rydych chi’n derbyn yw’r testun trafod yma, nid y rhyngwyneb. Mae’r dewis Saesneg yn golygu bod lot o wefannau yn rhagosod Saesneg drostoch chi. Dyma un rheswm pam mae ystadegau am ddefnydd o wasanaethau Cymraeg ar-lein mor isel (dim ond un rheswm). Mewn achosion lle mae pobl eisiau Cymraeg, dydy’r ystadegau ddim yn adlewyrchu galw o reidrwydd.

Fel arfer en-us neu en yw’r diofyn (gan gynnwys rhai o borwyr sydd ddim yn cynnig y dewis o gwbl). Felly mae’r ffigur en-gb yn ddiddorol achos mae’n golygu bod rhywun wedi bwriadu gwneud y dewis. Efallai taw sefydliadau Cymreig sy’n gyfrifol am rai o’r ymweliadau hynny?

Mae gwefan Hacio’r Iaith yn uniaith Gymraeg heblaw am un tudalen ac ambell i ddyfyniad. Dw i’n cymryd bod y rhan fwyaf o ymwelwyr yn deall Cymraeg er bod eraill yn defnyddio Google Translate ayyb.

Ta waeth, heblaw am yr ystadegau doedd dim ystyriaeth gan ein system o ddewis iaith y porwr – hyd at heddiw.

haciaith-cymreigio-porwyr

Os nad ydych chi wedi gosod Cymraeg fel eich hoff iaith rydych yn gweld neges a fideo ar wefan Hacio’r Iaith fel yr un uchod. Mae Ffrwti wedi gosod yr un ategyn. Dw i’n rhedeg y cod fel arbrawf ar hyn o bryd. Ydy pobl yn cytuno bod e’n syniad da?

Yn fy marn i byddai hi’n neis tasai’r porwr yn gofyn i chi am ddewis iaith ar y tro cyntaf. Hefyd dylai sefydliadau yng Nghymru gwneud mwy i barchu dewis iaith defnyddwyr a gweithwyr.

Mae’r ategyn ar gael i gyhoeddwyr gwe eraill ar wefan Dechnolegau Iaith Prifysgol Bangor. Diolch iddynt am eu holl waith.

6 sylw

  1. Dyma ystadegau Ffrwti ers cychwyn:

    en-us — 15475 — 49.39
    en-gb — 13016 — 41.54
    cy-gb — 875 — 2.79
    cy — 590 — 1.88
    eu — 517 — 1.65
    en — 386 — 1.23
    es — 83 — 0.26
    es-es — 51 — 0.16
    pt-br — 45 — 0.14
    en_gb — 41 — 0.13

    (Nifer sesiynau yw’r golofn ganol)

    Hyd yn oed llai. Be am ddod nol diwedd Awst a chymharu mis Awst efo mis Gorffennaf i weld os oes unrhyw newid oherwydd yr ategyn.

    Falle bod o’n annoying i bobl ddi-Gymraeg sy’n dod i’r wefan (ac hefyd annealladwy – does dim esboniad Saesneg i’r pop-up). Roedd y fersiwn Catalaneg o hyn sef Catalanizador yn defnyddio graffeg bach ar draws top y sgrin yn hytrach na pop-up mawr a falle byddai hynny’n fwy addas.

  2. Yn fwy annoying i bobl ddi-Gymraeg na’r cynnwys arferol?! Dw i’n credu bod rhai yn defnyddio Google Translate yn enwedig y rhai ar Chrome.

    Tybed os oes mwy ar symudol ar Ffrwti? Dw i ddim yn meddwl bod dewis o gwbl ar rhai systemau?

    Ymwelwyr i Hacio’r Iaith o ran system weithredu:
    Windows—19,974—49.18%
    Macintosh—10,394—25.59%
    iOS—3,347—8.24%
    Android—2,302—5.67%
    Linux—1,659—4.08%
    iPhone—1,607—3.96%
    iPad—621—1.53%
    (not set)—334—0.82%
    BlackBerry—170—0.42%
    iPod—65—0.16%

    Dylen ni i gyd trafod popeth yn y dafarn yn Steddfod yr wythnos nesaf. Dangos dy stats!

  3. Dyw en-gb ddim yn golygu o angenrheidrwydd fod rhywun wedi gwneud y dewis. Os ydych chi’n gosod Windows (a systemau eraill mae’n siwr) a dewis en-gb fel locale mi fydd hynny yn cael ei roi mewn i IE. Ac wrth ddefnyddio IE i gael copi o borwr arall mae’n debygol y fydd gwefannau hynny yn gweld y dewis iaith ac ail-gyfeirio at fersiwn en-GB yn lle en-US.

    Dw wedi gosod iaith fy mhorwr i cy ers dros 16 mlynedd a dwi ddim yn gweld y manteision o ran defnydd y Gymraeg ar lein achos mae’n golygu fod rhaid i *bob* gwefan amlieithog Cymraeg/Saesneg addasu eu cod i adnabod y dewis iaith a ail-gyfeirio mewn rhyw ffordd gall.

    A dyw e ddim mor syml a hynny – mae’n creu pob math o gymlethdodau. Os ydw i yn chwilio ar gwgl am rhyw eiriau penodol ac yn cyrraedd tudalen saesneg sy’n cynnwys y geiriau, a fydden i eisiau cael fy ail-gyfeirio yn awtomatig i’r fersiwn Gymraeg (na fyddwn, ond fe fyddai dolen ‘Cymraeg’ at dudalen sy’n cyfateb yn union i’r dudalen Saesneg yn ddefnyddiol – nid pob gwefan sy’n gallu gwneud hynny yn gywir).

    Os ydw i’n teipio parth dwyieithog i fewn e.g. http://www.wales.gov.uk hoffwn i weld y fersiwn saesneg a http://www.cymru.gov.uk – hoffwn i weld y Gymraeg. Dwi ddim eisiau iaith y porwr i ddewis wedyn. Fel mae’n digwydd mae wales.gov.uk yn gorfodi fi ddewis iaith eto er mod i wedi nodi hynny ddwywaith (drwy iaith y porwr a fy newis o URL).

    Beth am wefan gyda un parth yn unig – mae hyn yn symlach; mi fyddai’n bosib defnyddio iaith y porwr i ddewis iaith yn lle tudalen ‘sblash’. Ond os dwi’n dilyn dolen dwfn o wefan arall, fasen i ddim eisiau cael fy ail-gyfeirio.

    Mae’r dewisiadau hyn i gyd yn gorfod cael eu dewis a’i codio yn ôl beth sy’n addas i bob gwefan. Er bod hi’n ‘neis’ gallu gosod iaith y porwr mae’r gwaith pwysicach i wneud o ran dylunio gwefannau dwyieithog – sicrhau fod y dewis iaith mewn lle amlwg ar frig y dudalen a fod y newid iaith yn gweithio’n uniongyrchol.

  4. Do’n i ddim yn gwybod bod hi’n posib i rhoi yr ieithoedd mewn trefn – nes i ychwangenu Cymraeg on ddim symud i’r brig!

Mae'r sylwadau wedi cau.