ITV Cymru/@Hacio i lansio cynllun newyddion ar-lein newydd

Mae’n rhaid dweud fy mod i’n chwilfrydig am gynlluniau Hacio ar ôl gweld y hysbyseb swydd yma, yn enwedig am sut mae’r newyddiadurwyr proffesiynol yn gweithio gyda gwirfoddolwyr ifanc.

Ond os ydych chi am geisio am y swydd dw i’n credu eich bod chi’n rhy hwyr yn anffodus!

Newyddiadurwr Ar-lein – ITV Cymru Wales
Lleoliad – Caerdydd
Llawn amser
Cytundeb: 6 mis

Cyfle cyffrous i ddatblygu newyddiaduraeth yn y Gymraeg ar-lein.

Mae criw Hacio ar fin cyhoeddi cynllun newydd i annog pobol ifanc i fwydo eu cynnwys newyddiadurol eu hunain i’r we. Yn y swydd yma, byddwch yn gyfrifol am greu cysylltiadau gyda myfyrwyr mewn ysgolion a cholegau, yn eu hysbrydoli i greu cynnwys ac yn sicrhau fod y deunydd yn gywir ac yn addas i’w gyhoeddi ar wefan Hacio.

Bydd gennych frwdfrydedd am newyddiaduraaeth yn yr iaith Gymraeg, gwybodaeth eang am faterion cyfoes Cymru a’r byd, a bydd eich bys ar byls y digwyddiadau sydd o bwys i bobol ifanc. Bydd angen syniadau arloesol a’r dewrder i dorri tir newydd.

Byddwch yn gyswllt cyson gyda S4C ac yn aelod allweddol o dîm fydd yn mynd ar daith i ysgolion Cymru i gynnig hyfforddiant technegol a newyddiadurol.

Byddwch yn gyfathrebwr da ar lafar ac mewn print, a bydd angen y gallu a’r parodrwydd i weithio dan bwysau. Cewch y cyfle hefyd i weithio ar raglenni Y Byd ar Bedwar a Hacio.

Mae ITV yn le gwych i weithio. Os os oes gennych chi ddoniau technegol a chreadigol a’r awydd i wynebu her newydd bob dydd, cysylltwch â ni.

Dyddiad cau: Gorffennaf 7fed 2014

1 sylw

Mae'r sylwadau wedi cau.