Golwg360 yn newid ei system sylwadau i Disqus

Dywedodd Golwg360:

[…] mae gwasanaeth newyddion ar-lein Golwg360 wedi cyflwyno adnodd sylwadau newydd i’r wefan.

Bydd darllenwyr bellach yn gallu gadael eu sylwadau ar straeon gan ddefnyddio system ‘Disqus’ sy’n cael ei ddefnyddio’n eang gan flogiau a gwefannau newyddion.

Bwriad symud at system sylwadau newydd yn ôl Golwg360 ydy cynnig mwy o gyfleoedd rhyngweithiol i ddarllenwyr, yn ogystal â lleihau camddefnydd o’r adnodd. […]

Fyddai hi’n neis i weld llwyddiant i’r syniad yma. Ar yr hen system roedd unrhyw un yn gallu teipio unrhyw enw, doedd dim modd sicrhau taw’r Dafydd Iwan go iawn oedd y sylwebydd ar unrhyw adeg heb sôn am y trols. Bydd mewngofnodi/cyfrifon yn wneud bach o wahaniaeth.

Mae prinder o wefannau a blogiau yn Gymraeg sy’n cael trafodaeth dda yn y sylwadau. Mae’n ymddangos bod llawer o Gymry yn ffafrio Facebook/Twitter, sy’n iawn cyn belled bod e ddim ar draul gwasanaethau brodorol. Mae eisiau normaleiddio’r arfer o drafod pethau ar wefannau a blogiau.

Dw i wedi gadael sylw ar y stori, hynny yw sylw am sylwadau trwy Disqus (bach yn meta ond dyna ni) ac mae Golwg360 yn awyddus i glywed barnau eraill.

Ewch i’r stori Golwg360 i adael sylwadau a phrofi’r system. Wel, does dim modd gadael sylwadau ar y cofnod hwn achos dw i wedi diffodd y nodwedd tro yma.