Lansio statiaith.com

Rwyf wedi lansio statiaith.com heddiw. Y bwriad yw iddo ymdrin ag ‘ystadegau sy’n ymwneud â’r Gymraeg – a rhagor’, fel y mae’n ei ddweud ar y pecyn.

Yn #haciaith 2014 ym Mangor dangosais un o’r mapiau sydd wedi ei gynnwys yn statiaith.com a dyma’r tro cyntaf iddo gael ei gyhoeddi. Mae’n dangos y newid yn y boblogaeth o siaradwyr Cymraeg yn ystod diwrnod gwaith, hynny yw, mae’n dangos sut mae’r nifer o siaradwyr Cymraeg mewn ardal yn wahanol yn ystod diwrnod gwaith – wrth eu bod yn symud o’u cyfeiriad preswyl i weithio. Dyma ddolen ato: Map newid yn nifer y siaradwyr Cymraeg ar ddiwrnod gwaith. Mae’n rhoi syniad arall i’r ystyr o ‘gymuned’ – ac efallai’n awgrymu posibiliadau busnes.

Mae hefyd yn cynnwys siart rhyngweithiol newydd sy’n dangos y siaradwyr Cymraeg yn ôl Cymuned, Siart: Nifer a % yn gallu siarad Cymraeg, yn ôl oed, yn ôl Cymuned.

Dydy’r wefan ddim yn ddwyieithog. Yn un peth am na welais sut i greu gwefan ddwyieithog lle roedd modd newid o un iaith i’r llall o’u mewn. Cefais gryn foddhad yn llunio’r tudalen Saesneg, gan iddo adlewyrchu sefyllfa cymaint o wefannau ‘dwyieithog’: tudalen glanio Saesneg statiaith

Os gall rhywun egluro i mi sut i wneud gwefan ddwyieithog gyda WordPress byddwn yn ddiolchgar.

Problem arall sylwais arno yw nad yw’n hawdd dewis o’r ddewislen ar fy Nexus7 nac ar fy ffôn. Os oes gan rywun awgrymiadau am sut i wella hynny, byddwn yn ddiolchgar eto. Efallai bod thema WordPress arall sy’n gweithio’n well?

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Gan Hywel Jones

Ysgrifennaf o'm rhan fy hun yma ran amlaf, nid yn rhinwedd fy swydd.

2 sylw

  1. Tydi’r linc statiaith.com ddim yn pwyntio at statiaith.com! Y wefan newydd yn edrych yn gret gyda llaw – gret i geek fel fi…

  2. Ioan – diolch. Llwybrau perthynol/absoliwt wastad yn boen i mi. Wedi eu cywiro nawr.

Mae'r sylwadau wedi cau.