Wedi methu Hacio’r Iaith? 14 peth gwahanol o’r digwyddiad yn 2014

Dyma rhai o’r pethau a ddigwyddodd ar ddydd Sadwrn yn Hacio’r Iaith 2014. Does dim rhifau achos does dim trefn penodol.

Ffrwti
ffrwti-logoFfrwti ydy gwasanaeth newydd sy’n casglu trydariadau Cymraeg mewn un lle ac yn cynnig rhestr o bynciau sy’n trendio (ie, mae rhestr trendio yn Gymraeg yn ôl!). Dw i’n hoff iawn o’r Ffrwtibot – rhestr o’r dolenni sy’n boblogaidd NAWR. Mae’n wneud popeth a oedd Umap Cymraeg yn eu gwneud yn ogystal â dehongliadau a sgyrsiau gan gyfranwyr gwahanol am bynciau llosg. Mae’n cydweithrediad rhwng Gwlad y Basg a Chymru ac yn wych.

Adnabod lleferydd GALLU
Mae creu meddalwedd sy’n deall lleisiau Cymraeg wedi bod yn freuddwyd hyd yn hyn. Tra bod pethau fel Apple Siri yn adnabod cyfarwyddiadau yn Saesneg rydym yn gweld eisiau rhywbeth tebyg yn y Gymraeg. Wel, mae Canolfan Bedwyr yn gweithio arno fe. Bydd y feddalwedd o dan drwydded BSD, newyddion da iawn i’r rhai sydd eisiau creu gemau, meddalwedd dysgu iaith, pethau i blant ac ati. Yn gyntaf maen nhw yn bwriadu rhyddhau ap sy’n recordio eich llais er mwyn bwydo’r system gyda chorpws o recordiadau. Dyna oedd y cyflwyniad a chwarae teg i Dewi o Ganolfan Bedwyr am fod yn un o’r cyntaf i redeg sesiwn yn y bore.

DuSkona-plakat-250

Du Sköna
Sylweddolais fy mod i erioed wedi gwylio ffilm o dramor gydag is-deitlau Cymraeg. Ydych chi? Mae llawer gydag is-deitlau Saesneg wrth gwrs, pam ddim Cymraeg? Dw i’n siŵr bod un neu ddau wedi bod o’r blaen? Fel prosiect yn ei amser sbar mae David Chan wedi cyfieithu is-deitlau ar gyfer Du Sköna, ffilm am fywyd mewn pentref bach yn Sweden. Cawson ni arddangosiad bach Nos Wener. Bydd y ffilm a’r is-deitlau ar gael ar y we cyn hir. Gallen ni ddilyn y model yma gyda rhai o’r goreuon o ffilmiau byd-eang. Oes ‘na unrhyw sianeli sydd eisiau darlledu ffilmiau gydag is-deitlau yn Gymraeg plîs? Beth am bethau fel Lars von Trier – neu ieithoedd bychain/lleiafrifedig eraill?

Academia.edu
academia-eduAcademia.edu ydy cymuned o academyddion lle maen nhw yn rhannu ymchwil. Mae Carys Moseley yn aelod brwd o’r cymuned, sy’n chwilio am ragor o academyddion Cymraeg. Mwy am Academia.edu

Haclediad gan Llion Jones
Haclediad – llun gan Llion Jones

Haclediad
Bydd yr Haclediad (podlediad awdio difyr ar dechnoleg) ar gael ar y wefan hon cyn hir felly dw i ddim yn mynd i ailadrodd y cynnwys… Yn sydyn, dau beth diddorol oedd: Huw M yn siarad am yr adran BBC hirddisgwyliedig Cymru Fyw (detholiad o straeon a thrafodaethau o gwmpas y we Gymraeg ac ymdrech i hybu sylw i gynnwys Cymraeg tu allan i’r BBC) ac Illtud o Lyfrgell Genedlaethol ar Bapurau Newydd Cymru Ar-lein (mwy o deitlau wedi mynd lan y mis hwn!), Cymru1900 a Cymru 1914.

Y Codwr Canu
Ewch i canu.gwilym.net ar eich ffôn neu dabled am geiriau caneuon ac emynau ar gyfer dathlu rygbi (gobeithio fydd rhywbeth i’w ddathlu). Wedyn os dych chi’n colli cysylltiad i’r we does dim ots, mae’ch ffôn yn cadw’r tudalennau a’r ganeuon i gyd. Ap sy’n rhedeg ar y we ydy’r prosiect yma gan Mei Gwilym. Mae e wedi ei sgwennu mewn HTML5 – a dim ond unwaith. Does dim rhaid sgwennu fersiynau ‘brodorol’ gwahanol ar gyfer Apple, Android, Windows ac ati. Datblygwyr: mae e wedi rhannu’r cod ar Github er mwyn i bobl eraill ei addasu a dysgu.

dotcymru.cymru
Siaradodd Aled Eirug ar ran Nominet am y cyfle i gofrestru enwau parth gyda .cymru (a .wales) a’r ymgyrch cyhoeddusrwydd Ein Cartref. Hefyd roedd e’n sôn am Ymddiriedolaeth Nominet sy’n ariannu prosiectau digidol gan gynnwys newyddion lleol a phethau cymunedol. Yn ôl y sôn mae prinder o geisiadau oddi wrth prosiectau Cymraeg ar hyn o bryd.

Heliwm/Nwdls gan Lowri Mair
Heliwm/Nwdls – llun gan Lowri Mair

Heliwm
Dyw Heliwm ddim yn bodoli eto ond bydd e’n canolbwynt i brosiectau ariannu torfol yn Gymraeg. Os ydych chi eisiau creu albwm, ffilm, prosiect digidol, llyfr neu rywbeth arall ac angen casglu arian oddi wrth eich cefnogwyr o flaen llaw, Heliwm fydd y lle i chi. Dilynwch Heliwm a gofynnwch Rhodri ap Dyfrig am ragor o fanylion.

Mapio a siartiau
Roedd Hywel Jones yn siarad am sut mae fe wedi creu mapiau (cyflwyniad Google Drive) a siartiau (siart rhyngweithiol) o Gyfrifiad 2011. Dangosodd Hywel waith oedd ganddo ar droed yn mapio’r boblogaeth ar ddiwrnod gwaith, yn hytrach na’r boblogaeth breswyl. Roedd yn amlygu patrymau diddorol. Er engraifft, roedd ardal Parc Menai’n gweld dros fil yn rhagor o siaradwyr Cymraeg yno’n ystod y dydd.

DBpedia
DBpedia ydy prosiect enfawr i ddefnyddio’r we semantig i ffeindio ffyrdd amgen o ailddefnyddio gwybodaeth Wicipedia ac i wella Wicipedia ei hun mewn ieithoedd gwahanol, e.e. os oes erthygl am wlad gydag eitem ‘prime minister’ byddai modd diweddaru Wicipedia Cymraeg gydag eitem ‘prif weinidog’ yn hollol awtomatig, ac ati am filoedd o eitemau. Hywel Jones oedd y cyflwynydd ar DBpedia (cyflwyniad Google Drive).

WhatDoTheyKnow – Cais Rhyddid Gwybodaeth
Mae Hywel Jones (fe eto – chwarae teg) wedi cyfieithu rhyngwyneb WhatDoTheyKnow. Mae modd darllen ceisiadau ac ymatebion a gwneud cais eich hun. Pa gais rhyddid gwybodaeth fyddech CHI am wneud trwy gyfrwng y Gymraeg?

saundjawrsGimp My Taid
Creuodd rhai ohonom ni ddelweddau sili gyda GIMP (fel PhotoShop ond meddalwedd rydd am ddim) a Pixlr (fel PhotoShop hefyd ond yn rhedeg ar y we am ddim), e.e. Saundjawrs (gan IfanMJ) ac Eurosaunders (gan IfanCeinion). Mae’n eithaf hawdd gyda haenau, dethol a theclynnau eraill.

Wicipedia Cymraeg
Wicipedia Cymraeg ydy’r wefan mwyaf prysur yn y Gymraeg. Mae pobl yn ymweld â mwy na 2 miliwn o dudalennau Cymraeg bob mis (yn wir). Yn anffodus gwnes i fethu’r sesiwn eleni (ydy unrhyw un eisiau crynhoi’r sgwrs isod?). Yn y cyfamser dyma cofnod diweddar am ddysgwyr Cymraeg a Wicipedia gan Rhys Wynne

Y bobl
Y cyfle i gwrdd â phobl cyfarwydd a newydd ydy un o uchafbwyntiau pwysicaf Hacio’r Iaith. Dw i’n credu bod amrywiaeth da o bobl. Mae rhyw fath o gydraddoldeb o ran gender ac oedran (beth mae pobl eraill yn meddwl?). Byddwn i’n awyddus iawn i gael sylwadau am sut i wella’r cydraddoldeb a sut i fod yn fwy croesawgar i amrywiaeth eang o gyfraniadau.

Yn bersonol roedd hi’n braf cwrdd â LlionJ, cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr a dyn sy’n trydar mewn trawiadau.

Diolch yn fawr iawn i bobl Canolfan Bedwyr a Phrosiect TILT am noddi’r digwyddiad – a phawb sydd wedi cyfrannu.

Gyfeillion, dw i’n gwybod fy mod i wedi methu rhai o uchafbwyntiau Hacio’r Iaith 2014. Roedd stwff am newyddion lleol a dysgu ieithoedd. Ychwanegwch mwy yn y sylwadau plîs!

Hacio’r Iaith 2014 – rhagor o gofnodion

7 sylw

  1. Diolch am y rhain – defnyddiol iawn gan bod hi’n amhosib mynd i bopeth.

    Mae rhyw fath o gydraddoldeb o ran gender ac oedran (beth mae pobl eraill yn meddwl?).
    Teimlo o’n i nad oedd llawer o dan 30 oed yna – lle oedd y myfyrwyr/pobl iau?

    Wnaethon ni ddim sicrhau bod rhywun yn tynnu lluniau ar y dydd, ond dyma rai ar Comin Wikimedia. Os oes gyda chi luniau (ar Twitter/Flickr/Instragra ayyb) o’r dydd, danfonowch ddolen yma a nodwch os ydych yn hapus i mi ei roi ar y Comin ar drwydded CC-BY-SA

  2. Rwyt ti’n hollol iawn. Heblaw am ambell i eithriad – gan gynnwys y babi – doedd dim llawer o bobl o dan 30 oed. Rydym yn gallu gwneud mwy o ymdrech i gysylltu â phobl ifancach tro nesaf.

    Dw i’n licio’r ffaith bod pobl yn gyfforddus i ddod â babis bob blwyddyn gyda llaw, dyna un peth positif arall!

  3. Edrych yn ddiddorol – piti i fi golli’r digwyddiad eleni eto.

    Diddorol gweld bod Aled Eirug yno i drafod .cymru. Gobeithio wnaeth rhywun ofyn y cwestiynnau canlynlol iddo:

    1. Pam wnaeth e gyfarfod â phob gwleidydd o Gymru yng Nghaerdydd a San Steffan a dweud celwydd iddynt fod dotCYM eisiau parth lefel-uchaf i’r Cymry Cymraeg yn unig er mwyn sicrhau fod y Cymry ddim yn berchen er eu parth eu hunain ac yn lle hynny yn mynd yn berchnogaeth i gwmni preifat yn Lloegr?

    2. Pa driciau brwnt arall y defnyddiodd e a Nominet i berswadio Llywodraeth Cymru i sicrhau fod y Cymry ddim yn rheoli adnodd pwysig fel eu parth eu hunain, fel yr Albanwyr, Basgwyr, Llydawyr, Galisiaid, Catalanwyr, Ffrancwyr, Almaenwyr a phob cenedl arall ag owns o hunan barch? Mae dau gais Rhybudd Gwybodaeth wedi ei wneud i gael gafael ar y cyfathrebu rhwng Nominet a’r Llywodraeth ond wedi cael eu gwrthod am resymau hurt, e.e., y byddai yn arwain at brotestio, byddai yn wael i fusnes yng Nghymru a byddai’n arwain at weision sifil yng Nghymru yn methu gwneud eu gwaith yn iawn yn y dyfodol.

    Rwy’n gobeithio na gafodd Aled Eurig groeso cynnes gan y byddai ond yn cryfhau hyder cwn bach Llafur fel e, sy’n gweithio yn erbyn y Gymraeg a Chymru, eu bod yn gallu gwneud unrhyw beth y mynnent i danseilio’r wlad, yr iaith a’r diwylliant.

    Mae Aled Eurig yn gweithio i stopio arloesedd a menter technolegol yng Nghymru – yn union yn groes i bwrpas Haciaith.

  4. Diolch Maredudd. Rydych yn swnio’n chwerw tu hwnt. Roedd Hacio’r Iaith yn achlysur diddorol a defnyddiol tu hwnt o safbwynt unrywun sydd am weld y Gymraeg yn ffynnu ar gyfrynge cymdeithasol a’r we. Mae nominet yn gwmni sydd ddim am wneud elw, ac wedi sefydlu swyddfa yng Nghaerdydd, ac wedi cytuno I sefydlu Canolfan Alwadau ym Mhenrhyndeudraeth er mwyn ymwneud a .cymru a .wales .

    Mae sefydlu’r 2 parth yn gyfle arbennig I ddatblygu presenoldeb Cymru ar y we, a dwy’n gobeithio bydd llawer yn defnyddio ‘r ddau, neu .cymru yn unig Mae’n anffodus eich bod yn dewis bod mor negyddol.

  5. Aled, dydy dweud fy mod yn chwerw neu’n negyddol ddim yn newid dim ar y ffeithiau ac mae’n dric plentynaidd i dynnu sylw oddi wrth y drafodaeth.

    Fel arfer byddai dim pwrpas parhau gyda’r ddadl yma gan taw eich amddiffyniad yw i ddweud fy mod i’n chwerw, ond mae’ch neges chi wedi codi nifer o gwetiynnau eraill.

    1. “Mae Nominet yn gwmni sydd ddim am wneud elw”

    Beth yn union ydych yn trio ei ddweud fan hyn?

    Ydych chi’n dweud nad ydy Nominet yn gwneud unrhyw elw? Y tro diwethaf edrychais, rhyw ddwy flynedd yn ôl, roedd Nominet yn gwneud tua £8miliwn o elw y flwyddyn.

    Ydych chi’n gymysglyd oherwydd taw ‘cwmni nid-er-elw’ yw Nominet. Dim ystyr hynny yw nad ydynt yn gwneud elw.

    Neu oes rhywun wedi dweud wrthych nad ydy Nominet yn mynd i wneud elw allan o barthau .cymru/.wales? Os taw dyna ydych yn trio ei ddweud yna dydy e ddim yn golygu dim. ‘Elw’ yw beth sydd yn weddill ar ôl costau’r cwmni. Faint o arian fydd yn mynd allan o Gymru fel costau cyn ein bod yn dechrau sôn am elw? Mae syniad go dda gen i achos rwy wedi bod drwy broses tendro gyda Nominet. Mae talu pobl fel chi yn gost cyn elw hefyd. Byddai rhai pobl yn dweud fod hynny’n wastraff arian.

    Felly dydy dweud bod Nominet yn ‘gwmni sydd ddim am wneud elw’ ddim yn golygu dim. Unai rydych chi yn deall hyn ac yn trio ein twyllo neu mae nhw’n dweud rhwybeth di-ystyr wrthoch nad ydych chi’n ei ddeall a rydych chi’n ei ail-ddweud fel parot wrthym ni.

    2. “Sefydlu swyddfa yng Nghaerdydd, ac wedi cytuno i sefydlu Canolfan Alwadau ym Mhenrhyndeudraeth” – Ydw i fod yn impressed gyda hyn? Ar ôl dwyn adnodd mor bwysig oddi wrth Cymru rydych chi’n disgwyl i ni fod yn ddiolchgar iddynt am agor swyddfa fan hyn?

    3. “dwy’n gobeithio bydd llawer yn defnyddio’r ddau, neu .cymru yn unig” – ydy hyn yn golygu ei fod yn bosib prynu .cymru a .wales ar wahan ac nad ydynt yn dod gyda’i gilydd? Felly os ydw i’n prynu llewdu.cymru dydw i ddim yn cael llewdu.wales hefyd? Oes rhaid talu ddwywaith i gael y ddau ac a fyddai’n bosib fod rhywun arall wedi cael un a fi’n cael y llall?

    Rwy’n gobeithio fod hyn ddim yn wir gan y byddai’n golygu fod

    a) llewdu.cymru yn cystadlu yn erbyn llewdu.wales
    b) rhaid prynu 4 parth yn lle 2 os oes enw Saesneg i’r busnes, e.e. Black Lion (blacklion.cymru/blacklion.wales)
    b) y parth lefel-uchaf .cymru yn cystadlu yn erbyn .wales
    c) byddai’n gymysglyd iawn i’r defnyddwyr

    Yr unig reswm i wneud hyn fyddai er mwyn gwerthu mwy o barthau a gwneud mwy o arian i fynd i Nominet. Felly rwy’n gobeithio taw camgymeriad yw hyn ac y bydd llewdu.cymru a llewdu.wales yn gorfod mynd i’r un person am un pris. Wrth gwrs, byddai’n bosib i’r gweinydd wedyn i benderfynu dangos y wefan Gymraeg i llewdu.cymru a’r wefan Saesneg i llewdu.wales ond gobeithio nad ydych yn mynd i’n gorfodi i brynu dau barth am bob enw.

Mae'r sylwadau wedi cau.