Cyfle i enill £1000 yng nghystadleuaeth arloesedd yr Eisteddfod

Ma hwn yn ddiddorol iawn. Dwi’n siwr y byddai nifer fawr o bobol sydd yn ymwneud ag ymddiddori yn Hacio’r Iaith â diddordeb mewn cystadlu:

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi manylion cystadleuaeth arbennig i hybu arloesedd, a fydd yn cychwyn eleni yn Eisteddfod Sir Gâr.

Bwriad y gystadleuaeth hon yw annog Cymry o bob oed i arloesi ac i gynnig a chyflwyno syniadau fel rhan o gystadleuaeth newydd, sy’n cynnig gwobr o £1,000.

Meddai Swyddog Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod, Robyn Wheldon-Williams, “Yn syml, rydan ni’n chwilio am syniad cyffrous – unrhyw beth sy’n arloesol ac yn torri tir newydd. Gall fod yn syniad neu ddyfais hollol newydd, neu yn brosiect sydd eisoes wedi’i gwblhau. Neu, fe allai’r cais fod yn cynnig ateb i broblem sy’n bodoli mewn unrhyw faes, fel yr amgylchedd, amaethyddiaeth, meddygaeth, technoleg, peirianneg ac yn y blaen. Yn syml, rydym am glywed am unrhyw brosiect, gynllun neu syniad arloesol.

“Hoffwn dalu teyrnged i un o gefnogwyr mawr gwaith Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod, Beryl Williams, sef noddwr y gystadleuaeth hon. Mae Beryl, o ardal Trawsfynydd, wedi bod yn ladmerydd cyson dros ein gwaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a rydym yn ddiolchgar iawn iddi am ei haelioni a’i chymorth. Roedd Beryl yn awyddus i weld rhagor o sylw’n cael ei roi i arloesedd yng Nghymru, a gobeithio’n arw y bydd nifer fawr o geisiadau’n ein cyrraedd fel rhan o’r gystadleuaeth newydd hon.”

Gellir cynnig cais fel unigolyn neu mewn grwp, ac mae angen anfon cais o hyd at 1,000 o eiriau sy’n amlinellu’r syniad i Swyddfa’r Eisteddfod erbyn 1 Ebrill. Rhaid i’r cais gael ei gyflwyno yn y Gymraeg. Ceir rhagor o fanylion ar wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.org.uk, drwy ebostio gwyb@eisteddfod.org.uk neu drwy ffonio 0845 4090 400. Mae manylion hefyd ar gael yn Rhestr Testunau Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr, sydd ar gael i’w lawr lwytho’n rhad ac am ddim o wefan yr Eisteddfod.