BuddyPress – unrhyw wedi gwneud cyfieithiad Cymraeg?

Ydy unrhyw wedi gwneud cyfieithiad o BuddyPress (yr ategyn WordPress) i’r Gymraeg?

Rhannwch y ffeil .po os oes fersiwn os gwelwch yn dda, hyd yn oed rhywbeth anghyflawn! O’n i eisiau gofyn cyn bwrw ymlaen gyda fe.

Annhebyg bydd gyda fi amser/egni/termau i wneud y cwbl lot ond dw i’n bwriadu cyfieithu’r pethau ar y pen blaen a phethau amlwg.

(Unrhyw un sefydliadol eisiau ariannu pobl proffesiynol – yn hytrach na myfi – i wneud pethau fel hyn er mwyn cyfrannu i’r we Gymraeg…?)

5 sylw

  1. Na, heb glywed am unrhyw gyfieithiad ohono. Erioed wedi defnyddio fe fy hun – mi fyddai’n ddiddorol gweld e mewn defnydd ar gyfer rhywbeth Cymraeg.

  2. Bydd angen syniad da. Beth am rwydwaith o greadigrwydd gyda delweddau, jôcs gweledol, memes ayyb?

    O ran fy nefnydd yr wythnos hon dw i’n gwneud prosiect peilot gyda’r Sefydliad Materion Cymreig ond rydym ni’n cadw’r wefan yn gaeedig y tro yma.

  3. Daeth unrhywbeth o hyn yn y diwedd… buaswn i yn lecio defnyddio BuddyPress ar wefan led-gymdeithasol yn Gymraeg… Hapus iawn helpu ble y gallaf!

Mae'r sylwadau wedi cau.