Ysgoloriaeth PhD y Coleg Cymraeg: Newid Ymddygiad Ieithyddol

Mae Prifysgol Caerdydd yn hysbysebu PhD diddorol ar hyn o bryd:

Ysgoloriaeth PhD: Newid Ymddygiad Ieithyddol – Cynyddu’r niferoedd sy’n defnyddio rhyngwynebau cyfrifiadurol mewn ieithoedd llai

Mae’n bleser gan Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd wahodd ceisiadau gan unigolion a chanddynt ddiddordeb mewn astudio ar gyfer y ddoethuriaeth cyfrwng Cymraeg uchod. Ariennir y ddoethuriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd ymgeiswyr yn meddu ar radd 2:1 neu ddosbarth cyntaf mewn pwnc addas, ac wedi cwblhau’n llwyddiannus gwrs ôl-radd wedi ei addysgu cyn 31 Gorffennaf 2013.

Bydd yr ymchwil yn canolbwyntio ar ddulliau newid ymddygiad ieithyddol, a hynny yng nghyd-destun defnyddio’r rhyngwynebau cyfrifiadurol Cymraeg sydd ar gael. Bydd yr ymchwil yn cael ei chyfarwyddo gan Dr Jeremy Evas a’r Athro Diarmait Mac Giolla Chríost. Dyma gyfle i ennill cymhwyster gwerthfawr mewn ysgol academaidd fywiog, ac i greu tystiolaeth gadarn i seilio polisi arni. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â chriw o ymchwilwyr tebyg yn yr Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio, a hynny o dan ofal yr Athro Colin H. Williams.

Telir yr holl ffioedd dysgu ar ran yr ymgeisydd llwyddiannus. Cynigir hefyd fwrsariaeth o £13,726 y flwyddyn a hyd at £500 y flwyddyn tuag at gostau teithio ayb.

Dechrau: 1 Hydref 2013

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Gorffennaf 12, 2013

Am ragor o wybodaeth ac er mwyn derbyn ffurflen gais cysylltwch â Ceren Roberts, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, +44(0)29 2087 4843, RobertsC1@caerdydd.ac.uk.

Os oes gyda chi ddiddordeb cysylltwch yn uniongyrchol.

2 sylw

  1. Pwnc diddorol, pwysig a’r ateb yn werthfawr, gobeithio.

    Oes rhywle/rhywun gydag ystadegau neu hyd yn oed jyst amcan niferoedd lawrlwytho/gosod/defnyddio meddalwedd gyda rhyngwyneb Cymraeg? Dw i wedi gofyn yn uniongyrchol i ambell sefydliad ond neb yn gallu dweud am un rheswm neu’r llall.

  2. Helo Aled,
    Anodd iawn darparu hyd yn oed amcangyfrif lled wyddonol gan nad oes modd tracio’n uniongyrchol ar draws pob system. O wneud arolwg (sydd bellach wedi hen ddyddio), roedd lleiafrif bach iawn yn defnyddio rhyngwynebau Cymraeg systemau gweithredu a swyddfa (gweler: http://orca.cf.ac.uk/42541/) ond pwysleisiaf fod yr arolwg yn hen iawn bellach. Mae cynnwys gwefannau llawer yn haws ei fesur, wrth gwrs.

    Mae’r cwbl yn dibynnu ar sut mae’r dewis yn cael ei gynnig, hyder yr unigolyn, ymwybyddiaeth o’r dewis, canfyddiadau o farn pobl eraill amdanom yn manteisio ar y dewis ac yn y blaen (ac mae llawer o elfennau eraill ar waith). Dyna’r rheswm dros yr Ysgoloriaeth a diolch i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am ei noddi! Dyw hyn ddim yn llawer o ateb i chi, ond dyma’r gorau y gallaf ei gynnig!
    Jeremy

Mae'r sylwadau wedi cau.