Casglu hanesion y we Gymraeg – beth ydi dy hanes di?

Efallai bod rhai ohonoch chi wedi gweld gwefan hanesywegymraeg.com yn barod ond dyma bostio cofnod amdano ar haciaith.cymru er mwyn gwneud yn siwr bod pawb wedi ei weld.

Mae hanesywegymraeg.com ymdrech i gasglu hanesion, cerrig milltir, digwyddiadau allweddol a phrofiadau personol o’r hyn sydd wedi digwydd yn natblygiad y we Gymraeg o 1991 hyd 2012.

Hanes y We Gymraeg

Y bwriad yw gwneud yr hanes yma yn un torfol, gan ddefnyddio nodweddion y we ei hun er mwyn efallai codi ambell stori na fuasai’n dod trwodd drwy hanes un awdur. Gobeithio y bydd yn sbarduno trafodaeth, codi ambell gwestiwn, ac efallai’n sail i hanes mwy cyflawn o’r Gymraeg arlein yn nes ymlaen.

Gall unrhyw un felly ychwanegu cofnod at y llinell amser a rhoi pwt am y prosiectau roedden nhw’n gweithio arnyn nhw neu oedd wedi cael dylanwad ar nyn nhw mewn rhyw ffordd.

Er mwyn gosod cofnod eich hunain ewch i’r llinell amser a rhowch “rhithfro” fel y cyfrinair yn y blwch ‘Edit Timeline’.

Byddaf yn cyflwyno’r canlyniadau mewn darlith ddydd Mercher y 6ed Chwefror yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth a’n cau’r llinell amser i gyfraniadau newydd am 5pm ar ddydd Gwener yr 8fed.

Mae yna 80 cofnod yno erbyn hyn efo llwyth o ddeunydd diddorol. Dwi’n gobeithio gyrhaeddwn ni 100 erbyn dydd Mercher.

Os oes cywiriad ganddoch chi, neu eisiau ychwanegu pwt yna gadwch neges yn y sylwadau neu ebostiwch fi: rla@aber.ac.uk

Os oes rhywun o griw Haciaith awydd sgwennu cofnod mwy nac mae lle iddo ar y llinell amser fel mae ambell un am wneud yn barod, yna anfonwch neges ac mi wna i roi gwahoddiad i chi fod yn gyfrannwr ar y blog.

Fel arall, mewynhewch drip lawr lôn atgofion!