Hacio'r Iaith Bach, Rhuthun – 8.11.12

Yn dilyn cyffro cyhoeddi Hacio’r Iaith 2013 yr wythnos diwethaf, dw i am drefnu Hacio’r Iaith Bach yn Rhuthun.

Does dim Hacio’r Iaith Bach wedi bod yn y gogledd ddwyrain eto, felly byddai’n braf cwrdd a gîcs yr ardal.

Os ydych ar gael nos Iau yma (8fed o Dachwedd), ac eisiau trafod technoleg, y we ac iaith, galwch heibio’r Castle Hotel ar sgwâr Rhuthun am 7:00 ac edrych allan amdana i (Rhys) neu Robin.

4 sylw

  1. Diolch, Ces i dipyn o aildrydariadau gan unigolion/grwpiau yn yr ardal, ond yn anffodus roedd client Twitter fy ffon wedi byrhau’r URL a’i dorri! O wel… MI adroddaf yn ol.

  2. Waw, daeth pump heno. Dw i’n meddwl ei fod yn wych ein bod yn gallu trefnu digwyddiad fel hyn ar fyr rybudd mewn ardal gwbl newydd a bod yna bobl yn barod i ddod draw. Daeth Robin, Meinir, Llinos, Euros a minnau.

    Trafodwyd:

    • Beth yw’r dull gorau i sefydliadau drydar mewn sawl iaith? cyfrifon ar wahan vs pob iaith mewn un ffrwd
    • Defnydd amgen o Twitter gan gynnwys adolygiad.com
    • Prosiectau cydweithio rhwng Wicipedia a sefydliadau eraill
    • Delweddau ar Wicipedia a’r Comin
    • Hacio’r Iaith 2013
    • Rhedeg cwmni ISP a delio gyda sbamwyr

Mae'r sylwadau wedi cau.