Hacio’r Iaith 2013, Aberystwyth: cofrestrwch lle

Rydyn ni wrthi’n drefnu Hacio’r Iaith 2013 yn Aberystwyth am y pedwerydd tro ac mae’n fraint i ddweud bod modd cofrestru lle am ddim heddiw!

Manylion

Dydd Sadwrn 19fed mis Ionawr 2013
9:30YB – 5:00YH (amser cau i’w gadarnhau)
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth, Ceredigion, Cymru

Diolch i Illtud Daniel a phobl Llyfrgell Genedlaethol Cymru am eich help a chynnig hael gan gynnwys ystafelloedd, bwyd a di-wifr.

Beth?

Dyma’r Hacio’r Iaith mawr lle fydd cyfle i drafod, dysgu, rhannu a datblygu bob math o ddefnydd o dechnoleg yn y Gymraeg. Mae gymaint o gynhadleddau, yn enwedig yn y diwydiant technoleg, lle mae angen talu cannoedd o bunnau er mwyn gwrando ar rhywun ar y llwyfan sydd yn trio gwerthu rhywbeth i ti. Mae pawb sy’n rhedeg Hacio’r Iaith yn wirfoddoli ac mae unrhyw un yn gallu rhedeg sesiwn. Gobeithio fod e’n wir i ddweud bod Hacio’r Iaith gan y bobl ar gyfer y bobl.

Mewn gwirionedd mae sawl digwyddiad dan yr enw Hacio’r Iaith gan gynnwys sesiynau trafod bach yn y dafarn ac elfennau o fewn amserlen digwyddiadau eraill. Ond ym mis Ionawr rydyn ni’n elwa mewn sawl ffordd o gael nifer o bobl amrywiol yn yr un lle:

  • academyddion
  • pobl busnes
  • ymgyrchwyr
  • llywodraeth
  • llenorion
  • blogwyr
  • artistiaid
  • ffotograffwyr
  • dylunwyr
  • newyddiadurwyr
  • pobl theatr, teledu, ffilm, radio
  • rhaglenwyr
  • myfyrwyr
  • rho dy hoff gategori yma ____

Cofrestru

Mae croeso cynnes i bawb sydd eisiau cyfranogi! Eleni rydyn ni’n defnyddio’r system digwyddiadau Eventbrite i reoli archebion. (Fel y dwedais, rydyn ni i gyd yn wirfoddoli ac mae’n haws nag opsiynau eraill!)

Hacio’r Iaith 2013 – cofrestru am le

Dyw’r rhygwyneb Eventbrite ddim ar gael yn Gymraeg eto yn anffodus.

Cynllunio

Fel y gwnaethon ni llynedd, mae tudalen wici ar Hedyn er mwyn i ni drefnu’r digwyddiad gyda’n gilydd ac awgrymu syniadau o flaen llaw.

Hacio’r Iaith 2013 – trefniadau a syniadau ar Hedyn

Mae un math o docyn, sef ‘cyfranogwr’ felly dylech chi feddwl am sesiynau bosib. Beth am gyflwyniad, trafodaeth neu sesiwn ymarferol sy’n gysylltiedig ag eich hoff bwnc, technoleg a’r Gymraeg?

(Os wyt ti eisiau argraff o drefn y dydd, dyma sut oedd yr amserlen yn Hacio’r Iaith 2012 yn edrych. Bydd mwy o le ar yr amserlen eleni gobeithio.)

Lluniau da gan Parch Ddr Rhys Llwyd, llun ryff gan Carl

8 sylw

  1. Hen dro Delyth. Diolch am adael i ni wybod. Am drio gwneud ambell beth rhithiol nes mlaen. Cadwa lygad ar y blog.

Mae'r sylwadau wedi cau.