Diwrnod Ada Lovelace 2012: rhannu straeon am fenywod ym maes technoleg

Dydd Mawrth 16eg mis Hydref 2012 yw Diwrnod Ada Lovelace:

Diwrnod Ada Lovelace yw dathliad rhyngwladol o lwyddiannau benywod yn wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Amcan y digwyddiad yw rhannu straeon benywod sydd wedi ein hysbrydoli ni er mwyn creu modelau newydd i ferched a benywod ym meysydd lle mae dynion yn goruchafu. Cer i findingada.com am ragor o wybodaeth a sut i gymryd rhan.

Dechreuodd y digwyddiad yn 2009 fel diwrnod o flogio yn wreiddiol. Bellach mae modd cymryd rhan trwy rannu dy stori trwy unrhyw fformat gan gynnwys cofnodion blog, diweddariad Facebook, podlediad, trydariad ar Twitter a mwy. Os wyt ti’n chwilio am esgus i ddechrau blogio yn Gymraeg rwyt ti’n gallu creu blog Cymraeg am ddim yma. Does dim rhaid i ti sgwennu lot. Does dim rhaid i ti sgwennu hyd yn oed os wyt ti’n hoff o fideo neu awdio.

Mae sefydlwr y digwyddiad Suw Charman-Anderson wedi cyhoeddi erthygl ar Guardian amdano fe.

Dyma hanes y digwyddiad a mwy am Ada Lovelace ei hun.

Os wyt ti’n ystyried cymryd rhan, dyma enghreifftiau o gofnodion o ddiwrnodau Ada Lovelace a fu: Elin Rhys, danah boyd. Dyma’r unig enghreifftiau dw i’n gallu ffeindio yn Gymraeg ar hyn o bryd sori! Mae sawl cofnod mewn ieithoedd eraill. Mae croeso i ti bostio dolenni defnyddiol ar y pwnc yn y sylwadau.