Nominet yn camddefnyddio Google Translate i hyrwyddo .cymru a .wales

baner Nominet

baner Nominet

Cwrddais i rywun o Nominet ddoe – roedd e’n rhedeg stondin marchnata ar ran Nominet mewn cynhadledd yn Abertawe. Mae Nominet wedi dechrau ymgyrch marchnata cynnar er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r posibilrwydd o enwau parth lefel uchaf .cymru a .wales. Mae angen aros tan fis Mehefin 2013 am ateb oddi wrth ICANN ynglŷn â’r ceisiadau.

Roedd y baneri a’r taflenni yn cyfeirio at wefan: http://domainforwales.org.uk/cy

Heno ymwelais i a darllenais i’r testun isod yn yr adran Cofrestru parth:

Nid yw eto’n bosibl i gofrestru. Cymru neu. Enw parth cymru gan fod y ceisiadau yn cael eu hystyried gan ICANN.

Iawn hyd yn hyn, heblaw y ffaith dyw’r testun ddim yn wneud synnwyr.

Beth oedd ffynhonnell y testun yma? Dw i bron yn sicr daeth y ‘cyfieithiad’ o Google Translate. Dw i’n derbyn yn union yr un canlyniad pan dw i’n bwydo’r system gyda’r Saesneg.

It is not yet possible to register a .cymru or .wales domain name as the applications are under consideration by ICANN.

Dw i newydd tynnu sgrinlun o’r adran heno:
sgrinlun domainforwales.org.uk

Mae’r adran Astudiaeth Economaidd yn edrych yn amheus hefyd. Dyma sgrinlun o’r adran heno:

Fel mae’n digwydd, yn ystod fy sesiwn yn y gynhadledd gwnes i rybuddio pobl am Google Translate a chyfieithu peirianyddol yn gyffredinol – sydd yn ddefnyddiol os wyt ti eisiau awgrym o ystyr pan wyt ti’n darllen ond gwael iawn ar gyfer gwaith cyfieithu proffesiynol (tasai’r cynrychiolydd wedi dod i’r sesiwn…).

Ces i’r argraff bod y cwmni o Rydychen yn cymryd cyfrifoldeb dros y ceisiadau .cymru a .wales ar ran Cymru oherwydd bod ganddyn nhw ddwylo saff. Ond efallai bydd cwestiynau yn codi mewn meddyliau pobl sydd o blaid .cymru a .wales.

5 sylw

  1. Gwael iawn. Mae rhai eitem newyddion wedi eu sgyfieithu hefyd “Croeswch gefnogaeth ar gyfer parti .cymru & .wales (Cross party support for .cymru & .wales)

    Pan wnes i drafod gyda Nominet am .cymru ym mis Mai, doedd dim sôn am y wefan yma!

  2. Mae cwestiynau eisoes wedi codi ac yn parhau mewn myddyliau rhai pobl. Cymysg yw fy nheimladau wrth ddarllen cyfathrebaeth rhwng Nominet a Llywodraeth Cymru (1) ac mae’r ffaith bod peth cyfathrebaeth yn cadw yn gyfrinachol yn arwyddocaol yn ei hun: “it was identified that release of [emails between a named Welsh Government official and Nominet] was likely to give rise to negative publicity.” (2)

    Beth bynnag, rydym yn y sefyllfa yma rwan, felly rhaid edrych ymlaen. Mae hyn, o leiaf, yn addawol: “Mae Nominet hefyd yn bwriadu sefydlu presenoldeb barhaol yng Nghymru i ddarparu cefnogaeth ddwyieithog ar gyfer y gofresrfa .cymru a .wales.” (3) Wrth ddweud ‘cefnogaeth’, tybed a ydyn nhw’n gaddo gwasanaeth, h.y. gwefan a phopeth, yn y Gymraeg?

    Faint o bryder sydd y bydd ICANN dim ond yn caniatau un o’r ddau parth ac efallai yn penderfynu ei hunain pa un?

    1. http://wales.gov.uk/docs//decisions/2011/Business/111221dlbus190doc1.pdf
    2. http://wales.gov.uk/publications/accessinfo/disclogs/dr2012/janmar/business/5871952/?lang=cy
    3. http://domainforwales.org.uk/cy/content/pwy-yw-nominet

Mae'r sylwadau wedi cau.