Hacio’r Iaith wedi ennill blog technoleg gorau yn y #walesblogawards
Dwi ddim yn un mawr am y math yma o wobrwyon, ond *ma* hi’n neis cael cydnabyddiaeth gan bobol eraill yn y maes. Ac mi gafodd @hywelm a @dailingual noson allan!
Mi ddwedodd y beirniaid bethau neis iawn chwarae teg (gallwch chi wylio’r fideo yma – tua 49:00), gan gynnwys y peth pwysig bod haciaith yn fwy na blog ac yn waith lot fawr o bobol wahanol. Ma bron 3 mlynedd wedi mynd heibio erbyn hyn efo 639 o gofnodion blog, 1,189 o sylwadau, dros 20 o bodlediadau amêsing, 3 BarCamp, llwythi o ddigwyddiadau Hacio’r Iaith Bach a rhwydwaith rhannu gwybodaeth dda ar Twitter.
Ossym!
Be da ni’n neud nesa?


Aled 12:51 AM on 21 Medi 2012 Permalink
Llongyfarchiadau a da iawn chi. Codi’r bar rwan ac amddiffyn y wobr blwyddyn nesaf.
Carl Morris 1:14 AM on 21 Medi 2012 Permalink
Perarogl. Dylen ni wneud perarogl nesaf.
Mei 9:28 AM on 21 Medi 2012 Permalink
Gwychder – llongyfarchions mawr i bawb!
Colin Nosworthy 12:05 PM on 21 Medi 2012 Permalink
Da iawn pawb
Iestyn Lloyd 1:24 PM on 21 Medi 2012 Permalink
Woooohoooo!