Haclediad #23: Yn fyw o Eisteddfod y Fro 2012
Rhifyn arbennig O’r diwedd, anrheg hafaidd i’ch clustiau – rhifyn byw arbennig yr Haclediad o faes Eisteddfod y Fro 2012. Daeth miloedd[1] ohonoch yno i wylio Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod popeth o gysylltiadau digidol y maes ac ap y brifwyl hyd at bosibiliadau 4G mewn cae yn Ninbych flwyddyn nesa. Hefyd, mae cyfle i wrando ar swn peraidd y trac go-karts drws nesa i’r maes[1] yn ogystal â lleisiau melfedaidd eich cyflwynwyr.
Ac wrth gwrs, mae digon o’r rantio a rwdlan hwyl arferol i’w gael yn yr Haclediad hefyd, felly s’dim angen i chi boeni! Mwynhewch bodlediad gorau’r hâf[1] ar eich peiriant NAWR
O.N. Mae’n ddrwg gennym am ansawdd y sain (Gafyn wedi trio ei orau efo be recordiwyd), ond pe bai rhywun yn awyddus i gyfrannu ychydig o feicroffonau i’r achos…
Dolenni
-
Nid yw pob un o’r datganiadau hyn yn ffeithiol gywir ↩


Carl Morris 11:03 PM on 20 Awst 2012 Permalink
Gwych. Wrthi’n lawrlwytho.
Ble mae’r llun o’r tri ohonoch chi a’r hufen iâ?
Dafydd Tomos 1:50 PM on 21 Awst 2012 Permalink
Be dwi’n hoffi orau am yr haclediad yw pobl gyda ychydig iawn o wybodaeth yn malu cachu am awr. Heblaw hynny, roedd e’n dda.
Iestyn Lloyd 4:55 PM on 21 Awst 2012 Permalink
@Dafydd Fedri di sgwennu hyna mewn review iTunes? Angen cael crysau t di neud: Yr Haclediad – Pobl gyda ychydig iawn o wybodaeth yn malu cachu am awr. Love it
Bryn Salisbury 10:25 PM on 21 Awst 2012 Permalink
Diolch Daf! Pryd nes ti gweld mission statement ni?!
ifanceinion 10:48 PM on 22 Awst 2012 Permalink
I fod yn deg, mae HD yn sefyll am ‘haute définition’ yn Ffrangeg
Sioe dda!
Aled Powell 8:22 AM on 25 Awst 2012 Permalink
Wedi ei lawrlwytho fel gallaf wrando iddo wrth hedfan nos Lun. Edrych ‘mlaen.