Cyfrannu at Wicipedia Cymraeg #steddfod2012
Ces i sgwrs gydag ymwelydd i’r babell Hacio’r Iaith / Gŵyl Dechnoleg Gymraeg prynhawn yma, Iolo Ceredig Jones. Tra roedden ni’n trafod Wicipedia siaradodd e am ei gyrfa fel chwaraewr gwyddbwyll rhyngwladol ar ran Cymru. Felly cawson ni’r cyfle i ddiweddaru’r dudalen amdano fe ar Wicipedia Cymraeg gyda llun o du allan i’r babell!
Mae’r sesiwn Wicipedia Cymraeg yn dechrau prynhawn yma o 3YP ymlaen (yn y Cefnlen).

Rhodri ap Dyfrig 11:02 PM on 8 Awst 2012 Permalink
Dwi wrth fy modd efo’r stori yma. Dwi am ei groes bostio ar Blogwyr Bro.
Gwyddbwyll, Wicipedia a’r Gefnlen | Blogwyr Bro 11:07 PM on 8 Awst 2012 Permalink
[...] Carl wedi postio stori ar flog Haciaith sydd yn werth ei ail-gyhoeddi yma dwi’n meddwl: Ces i sgwrs gydag ymwelydd i’r babell [...]
Rhys Wynne 3:06 PM on 9 Awst 2012 Permalink
Ia wir, stori dda. Hefyd, o edrych ar dudalenau ‘enwogion’ Cymru, does braidd dim lluniau arnynt. Felly beth am fantiesio ar y ffaith bod bron iawn i bob seleb Cymraeg gwerth ei halen yn mynd i fod ar y Maes rhyw bryd neu gilydd a thynnu eu lluniau a’u huwchlwytho ar Wicipedia.
Sdim llun o Hywel Gwynfryn gyda ni hyd yn oed!
Dyma rai syniadau i chi o lle gall fylchau fodoli:
http://cy.wikipedia.org/wiki/Categori:Cyflwynwyr_radio_Cymreig
http://cy.wikipedia.org/wiki/Categori:Cerddorion_Cymreig
http://cy.wikipedia.org/wiki/Categori:Gwleidyddion_Cymreig
http://cy.wikipedia.org/wiki/Categori:Actorion_Cymreig
Wicipedia Cymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol « Y Wicipedia Cymraeg 11:32 PM on 16 Awst 2012 Permalink
[...] Yn ôl at yr Eisteddfod a’r cyflwyniad. Rhoddwyd esiampl gan Carl Morris o ba mor ddefnyddiol ydy’r Ŵyl o ran cyfle i ychwanegu delweddau at y comin. Drwy hap, dechreuodd Carl sgwrsio ag o, gan holi os oedd yn ymwybodol o’r Wicipedia a gofyn beth oedd ei ddiddordebau. Ateb y gwr bod ganddo ddiddordeb mawr mewn gwyddbwyll a bod yna hyd yn oed erthygl amdano ar y Wicipeida, gan iddo gynrychioli Cymru ar y lefel ryngwladol. Aeth Carl yn syth i’r erthygl a sylwi nad oedd (ar y pryd!) lun o’r gwr ar yr erthygl – felly aeth ati’n syth i wirio’r sefyllfa. [...]