Haclediad #21: Hei Mistar Urdd!
Mae’r haclediad yn troi’n 21 y mis yma, ond does dim arlliw o dyfu fyny yn perthyn i’r rhaglen, diolch byth! Tro hwn byddwn ni’n trafod Gmail Cymraeg yn cyrraedd wedi siwrne hir, cipio rhagolwg ar Windows 8, aps eisteddfod yr Urdd a rhwystredigaethau di-ri diweddaru Android. Hyn oll a llwyth o fwydro penigamp gydag Iestyn, Bryn a Sioned i’ch diddanu dros y penwythnos hir yma. Joiwch!


Hywel M. 12:19 AM on 4 Mehefin 2012 Permalink
Mwy o ystadegau Android yma: http://www.guardian.co.uk/technology/appsblog/2012/jun/03/google-play-android-ics-share