Hybu Newyddiaduraeth Dinesydd ar Faes Eisteddfod yr Urdd

Henffych gyfeillion,

Mae fy ngwaith ymchwil gyda Golwg360 wedi byrlymu dros y wythnosau diwethaf, gyda threfniadau’r haf.

Mae’r prosiect rwyf yn addasu ar hyn o bryd yn ceisio harwyddo a chynyddu defnydd o newyddiaduraeth dinesydd a chynhyrchu deynnydd amateur ar -lein.

Mae’r prosiect yn seiliedig ar ddalgylch ‘steddfod yr Urdd, gan fod yn fwrlwm o ddiwylliant a’r iaith Gymraeg, a gobeithio bydd sawl cyfle a phwnc i ysgrifennu neu ffilmio amdan yno.

Rwyf yn bwriadu creu’r cyfle, darparu hyfforddiant a darparu platform i ddefnyddwyr greu erthyglau, dyddiaduron neu blog’s aml-gyfrwng drwy’r wythnos.

Gobeithio bydd gennai well dealltwriaeth ar ôl diwedd yr wythnos ar ymateb y cyhoedd ar gynulleidfa ar ffordd yma o weithio, a hefyd be fydd angen gwella ar gyfer cynyddu a gwella hyfforddiant a harwyddo cyn Eisteddfod Genedlaethol 2012, Bro Morgannwg.

Am fwy o wybodaeth cerwch i’r wefan

http://www.golwg360.com/mae-golwg-eich-hangen-chi

Siôn Rich