Cipolwg cyffrous ar Raspberry Pi
Dw i wedi bod yn aros yn y ciw yn RS Components am fy Raspberry Pi. Diolch i Rhys W a’i Raspberry Pi am fy nghipolwg cyntaf uchod.
Raspberry Pi – rhagor o wybodaeth
Diolch i bawb am ddod i Hacio’r Iaith Bach yng Nghaerdydd neithiwr i drafod newyddion lleol, blogiau a phethau eraill.

Rhys Wynne 1:33 PM on 29 Mai 2012 Permalink
Fideo arbennig – sgwrs ddifyr ac ansawdd sain da iawn hefyd ar y ffon.
Carl Morris 12:45 AM on 30 Mai 2012 Permalink
Wel o’n i eisiau wneud fideo Cymraeg am y Raspberry Pi!
Mae tudalen fach ar Hedyn bellach: http://hedyn.net/wici/Raspberry_Pi_Cymraeg
Mae awdio yn wan ar lot o ddyfeisiau bach fel ffonau, FlipCam ayyb. Sut fi’n (trio) wneud fideo clir:
1. cer i rywle dawel – tu allan os ydy’r lle yn swnllyd fel Chapter
2. agos (…a phersonol) i’r person
3. wynebu’r person