Gmail yn y Gymraeg!

Newyddion mawr heddiw, mae’r Comisynydd Iaith (Meri Huws) wedi cyhoeddi bod Google yn mynd i gwneud fersiwn Cymraeg o’r gwefan e-bost poblogaidd “Gmail” ar gael yn y Gymraeg.

Dywedodd Meri Huws:

Mae technoleg gwybodaeth yn rhan ganolog o’n bywydau bob dydd – byddwn yn ei defnyddio yn yr ysgol neu yn y coleg, yn y gwaith ac yn y cartref – ac mae’n bwysig felly fod siaradwyr Cymraeg yn gallu defnyddio’r iaith ar-lein. Mae’r ffaith bod Google, cwmni rhyngwladol ac enw cyfarwydd ar draws y byd, wedi penderfynu cynnig Gmail yn Gymraeg yn dangos y pwys y mae cwmnïau rhyngwladol yn ei roi ar ddatblygu technoleg yn Gymraeg, ac mae’n gosod esiampl i gwmnïau eraill, yn ogystal ag i ddefnyddwyr.”

Cafodd Gmail ei gyfieithu gan ddefnyddio system Translator Toolkit Google sef system cof cyfieithu soffistigedig yn y cwmwl sy’n cynnwys peiriant cyfieithu peirianyddol Google Translate. Cafodd y gwaith ei reoli gan swyddogion Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac wedyn, Comisiynydd y Gymraeg ar y cyd â Google.

Dwedodd Google:

Mae Google yn canolbwyntio ar sut y gall ein hoffer helpu i ddiogelu ac adfywio ieithoedd lleiafrifol er mwyn eu gwneud yn fwy perthnasol, yn arbennig i’r genhedlaeth ifanc. Rydym wrth ein bodd felly, fod Gmail ar gael yn Gymraeg – y ddiweddaraf o 57 iaith – gan ein bod yn gwybod bod galw am dechnoleg trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer defnyddwyr yng Nghymru a thu hwnt.

Dwi yn sicr yn hapus dros ben gweld rhagor o gyfleusterau a gwefannau ar gael yn y Gymraeg, ac yn hapus gweld cyd-weithio rhwng y Bwrdd, Y Comisiynydd a chwmnïau fel Google. Mae’r newyddion bod rhannau o’r gwaith wedi ei ‘wneud gan gyfrifiaduron (ac wedi ei gwirio gan aelodau o’r Bwrdd a swyddfa’r Comisiynydd) hefyd yn rhoi gobaith fydd system fel Google Translate yn gwella trwy gael mynediad i bentwr fawr o gyfieithiadau safonol.

Mae’r rhyngwyneb Cymraeg i fod ar gael o fore ‘fory ymlaen, a fydda ni yn dod a fwy o fanylion pan bod nhw ar gael!

10 sylw

  1. Bues i’n ebostio nôl a ‘mlaen gyda Google am hydoedd rhyw 5 mlynedd yn ôl am hyn. Roedd yn ymddangos ei fod yn mynd i ddigwydd bryd hynny, ond wnaetho nhw dynnu nôl. gwych gweld bod hyn wedi digwydd o’r diwedd. Nawr pwy all ddweud wrtha i sut i drosglwyddo ebost a chysylltiadau o Yahoo i Gmail, ac hefyd cael cyfeiriad Yahoo i arallgyfeirio at Gmail? Wedi cael cyfri Yahoo ers 14 mlynedd!

  2. Mae hi’n braf i weld bod gwaith y Comisiynydd a’r hen Fwrdd yr Iaith wedi dwyn ffrwyth achos mae pobol wedi bod yn gofyn am ddarpariaeth Cymraeg ar ryngwynebau Google ers blynyddoedd. Mae’r Comisiynydd wedi cyfrannu ei dylanwad, ‘lobio’ fel petai, sydd yn bwysig iawn – yn ogystal â’r gwaith cyfieithu.

    O ran Google mae gwasanaethau eraill fel YouTube a Google Docs sydd angen rhyngwyneb Cymraeg. Ac wrth gwrs bydd pobol yn disgwyl mwy o ryngwynebau Cymraeg ar aps gwe (web apps) gan cwmniau eraill fel Twitter. Rydyn ni’n byw yn yr oes aps gwe, mae lot yn digwydd yn y cwmwl (sori). Ond wedi dweud hynny gobeithio bydd y Comisiynydd yn canolbwyntio hefyd ar feddalwedd bwrdd gwaith fel Microsoft Windows, Apple OS X a Linux sydd yn bwysig o hyd.

    Gyda llaw yn fy marn i ddylen ni beidio gor-bwysleisio cyfieithu peirianyddol yn y cyd-destun yma achos mae gwaith cyfieithu o safon yn dibynnu ar gyfieithu dynol yn y pen draw.

    Ond hefyd mae gwaith tu hwnt i gyfieithu rhyngwynebau os ydy eisiau sicrhau’r darpariaeth Cymraeg gorau. Mae lot o enghreifftiau – gawn ni awto-dreigladau ar Google Search plis, e.e. chwilio am ‘Caernarfon’ er mwyn derbyn canlyniadau ‘Gaernarfon’, ‘Nghaernarfon’ a ‘Chaernarfon’? Hefyd mae pethau ‘golygyddol’, e.e. dyw’r erthygl BBC yn Gymraeg am Gmail Cymraeg ddim ar gael trwy canlyniadau Google News. Does dim lot o Gymraeg o gwbl ar Google News. Fydd unrhyw erthygl Golwg360 ddim ar gael chwaith!

  3. Dim gair o ddiolch i’r gwirfoddolwyr oedd wedi cyfieithu Gmail drwy Google yn uniongyrchol? Mi fase wedi bod yn bosib cael hyn 6 mlynedd yn ôl! (yn enwedig os oedd Bwrdd yr Iaith wedi cynnig gwirio’r cyfieithiad a’i gefnogi).

  4. Na Dafydd, dim sôn o gwbl yn y datganiad. Ond eto, mae’r Comisiynydd yn newydd ac mwy na thebyg yn rhoi meddwl ychydig fwy hir-dymor na’r hen Bwrdd. Gawn ni weld nawr os bydd mwy o pethau yn dod lawr y llwybr yn y dyfodol…

  5. O’r DIWEDD! Newyddion da, mae na un cwyn fach (oedd raid cael un doedd!), fel ar y dudalen chwilio Google, does dim dolenni i apps eraill Google fel Reader, Scholar, Newyddion ac ati. Yn rhyfedd iawn iddyn nhw sydd mor keen am wthio fo ma pob diweddariad G+ wedi diflannu hefyd. Ma’r rheina’n betha dwi’n ddefnyddio’n reit aml a ma’n biti bod dolen syml, hyd yn oed os dio’n Saesneg ar hyn o bryd, ddim yna.

    Ma Gmail yn wasanaeth dwi’n ddefnyddio’n ddyddiol felly, mae cyfieithu hwn yn fwy pwysig na chael y dudalen chwilio Google yn Gymraeg. Dwi bron byth yn mynd i Google.com. i chwilio dyddia ma, jest defnyddio’r porwr.

    Gobeithio bod Apple nesa ar yr agenda!

  6. Ti’n hollol iawn Rhodri, gobeithio byddant nhw nawr yn gallu cyfieithu’r gweddill yn reit fuan! Y peth diddorol i fi fydd gweld pa mor hir fydd hi’n cymryd i wneud fersiwn Cymraeg o Android.

  7. Mae’n ymddangos bod rhai nodweddion ar goll o Gmail Cymraeg (botymau ‘Calendr’, ‘Dogfennau’ ac ati, yn un peth pwysig iawn), a’r cyfieithu’n anghywir o bryd i’w gilydd (e.e. “Wrthi’n llwytho ymhen [hyn a hyn o amser]” am “Loading in [hyn a hyn o amser]”. Trueni – rhaid mynd yn ôl at iaith arall am y tro.

Mae'r sylwadau wedi cau.