Gwerddon: cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mae rhywun yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi gofyn i fi pasio’r neges isod ymlaen:

Ron i’n gweld dy fod yn cymell pob academydd i gael gwefan fel Bobi Jones ac felly roeddwn yn meddwl efallai y byddai gennyt ddiddordeb yn http://www.gwerddon.org sef cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol?

‘Da ni’n lawnsio gwefan hollol newydd sy’n defnyddio CMS Cymraeg cwmni Terminal 4 yn yr Eisteddfod ac mae’r lawnsiad ar Ddydd Mawrth, y 7fed o Awst ym Mhabell y Coleg Cymraeg am 11.00.

O hyn allan, yn lle ymddangos ar ffurf html, bydd erthyglau’n ymddangos mewn PDF troi-tudalen (flipping pages) ac hefyd ar ffurf ePub…mae’r penderfyniad terfynol ar hyn eto i’w wneud a dim fi (wele’r Ôl-nodyn isod) fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol!

Bydd diwyg ac arddull y wefan newydd yn dipyn gwell (wel yn fy marn cwbl oddrychol J).

Byddwn hefyd yn lawnsio Rhifyn dwbl (Rhifyn 10 o Gwerddon) yn yr Eisteddfod. Mae croeso i ti ddod ac i ti sôn wrth eraill am y lawnsiad!

Os wyt ti eisiau rhagor o fanylion e-bostia gwybodaeth@gwerddon.org

Hmm. Ydy PDF troi-tudalen ac ePub yn well na HTML? Gawn ni weld… Ym mhersonol dw i ddim yn deall y cysyniad o ‘rhifynau’ ar we chwaith. Mae troi tudalennau a rhifynau yn edrych fel ymdrech i symud terfynau y byd corfforol i’r we sydd yn fformat gwahanol. (Beth yw ‘skeuomorph’ yn Gymraeg?)

Gyda llaw dyma fy nghofnod blog o 2011 am wefan Bobi Jones.

8 sylw

  1. Mae yna stwff rili da ar y wefan, a dw i ddim yn gweld beth sy’n bod ar y diwyg. Dw i’n hoffi fel mae modd clicio ar broffeil awdur y erthygl a gweld pob erthygl arall mae o neu hi wedi eu cyfranu. Unif wendid wela i ydy nod oess RSS i hysbysu am erthyglau newydd. Byddai’r gallu i adael sylw yn braf, ond deallaf na fasai’n flaenoriaeth na falle’n addas.

    O hyn allan, yn lle ymddangos ar ffurf html, bydd erthyglau’n ymddangos mewn PDF troi-tudalen

    Rhaid bod nhw’n tynnu dy goes di – ar Ebrill y 1af dderbyniaist i’r e-bost? Fydd yna URL’s unigryw wedyn ar erthyglau penodol sgwn i? Os ddim, fydd dim modd i bobl (megis blogwyr neu newyddiadurwyr Golwg360) roi dolenni o gofnodion blog/erthygl newyddion at erthygl penodol ar Gwerddon na fydd?

  2. Newydd gael cip a rhaid i fi gytuno fy mod yn ffeindio meddalwedd cylchgrawn fel Flipbook yn ofnadwy ar gyfer darllen arlein. Pa mor hygyrch ydi hyn mewn gwirionedd? Mae’n debyg fod y dull ‘fflipio’ yn gweithio’n weddol drwy lywio gyda sgrin gyffwrdd, ond mae llywio tudalen fel hyn gyda llygoden neu trackpad yn boen.

    Hefyd, mae’n gwestiwn a ydi’r fformat yn gwneud dyfynnu’n fwy anghyfleus na HTML? Oni fyddai’n dda i geisio cael dolenni i gyfeirio at erthyglau, neu well fyth, allu cyfeirio at rannau o erthyglau er mwyn rhoi’r annogaeth mwya ar gyfer eu trafodaeth ehangach. Mae diffyg URL unigryw yn gwneud dyfynnu ar-lein a mewn erthyglau sydd efo dolenni byw yn llai uniongyrchol yn sicr.

    Beth yw goblygiadau’r newid hwn ar gyfer peiriannau chwilio? Ydi’r deunydd yn cael ei indecsio (mynegeio?!) gan Google yn y ffordd orau? Dwi’n gwybod bod tags h1, h2 a strwythr taclsu HTML yn helpu Google i wneud synnwyr o dudalennau er mwyn eu rancio’n well dydi. Arbenigwr SEO nid wyf cofiwch…

    Mae llawer iawn o gyfnodolion arlein yn cynnig dau opsiwn: HTML a pdf. Wrth bori mi a’i am y fersiwn HTML, ar gyfer erthygl dwi am fynd nol ato dro ar ol tro, mi a’i am y pdf.

    Dwi’n falch iawn bod cyfnodolyn Cymraeg ar gael arlein, a dwi ddim isio swnio fel gor-gwynwr achos fel na ma ymateb fel hyn am swnio ma’n debyg, ond trio cynnig sylwebaeth adeiladol er mwyn gwella’r defnydd ohono ydw i yn y bôn.

    Ond dwi dal yn casau flipbooks/issuu!

  3. Yn fy mhrofiad i mae sefydliadau yn bostio ffeiliau PDF fel sgil gynnyrch o broses print yn hytrach nag ymdrech difrifol i greu pethau sydd yn addas ar y we.

  4. Er gwybodaeth, dw i newydd ddarganfod bod modd darllen pob rhifyn drwy ferswin HTML cyffredin (neu ‘basic’). Mae hyn yn ei wneud yn lot haws i’w ddarllen a’i gyrchu yn fy marn.

    Mae hefyd modd rhoi dolen at dudalennau unigryw o leiaf.

    Darganfyddais hyn wrth i rhywun osod dolen ar Wicipedia, ac fel y gwelwch, mae dolen ar y ‘Full version’ sef y flipbook yno, ond hyd y gwela i does dim dolen amlwg at y fersiwn HTML o’r fersiwn flipbook.

  5. Helo Rhys, Carl a Rhodri

    Dw i’n gweithio ar Gwerddon ac mae’ch sylwadau uchod yn ddefnyddiol dros ben. ‘Dan ni’n ystyried ailwampio diwyg y PDF dros y misoedd nesaf, ac mae angen i ni benderfynu beth i’w wneud gyda’r HTML. Os oes gennych chi amser/mynedd, beth ydy’ch barn ar y canlynol, tybed?

    1. Oes angen fersiwn HTML o’r erthyglau? Pam?
    2. Os oes, a chan gofio mai adnoddau go gyfyng sydd gan Gwerddon, pa ffurf HTML fyddai’n gweithio orau?

    ‘Dyn ni ddim am stopio defnyddio PDF am sawl rheswm, ond mae ‘na le i ystyried beth ‘dyn ni’n drio’i gyflawni (os unrhywbeth!) efo HTML.

    Mawr werthfawrogi unrhyw farn neu adborth pellach! Diolch!

    Hwyl
    Mari

  6. Mari

    1. HTML yw’r fformat mae gwefannau yn defnyddio o Gynulliad Cymru i Lyfrgell Genedlaethol i’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r safonau tu ôl i HTML yn agored a chyhoeddus. Mae lot mwy o feddalwedd yn gallu darllen HTML. Mae modd darparu tudalen HTML yn ogystal â ffeiliau eraill er mwyn cynnig dyluniad ymatebol sy’n addasu ei hun i fathau gwahanol o ddyfais fel ffonau, cyfrifiaduron ayyb.

    Mae fformat HTML yn eiddo i bawb, does ‘na ddim cwmni sy’n berchyn arno fe. Ond mae PDF yn eiddo i gwmni o’r enw Adobe Systems Incorporated.

    2. Bydd angen i chi fod yn unol ag ymarfer da yn y maes gwefannau. Dylech chi ofyn i dylunydd proffesiynol am faterion cysodi/gweledol. Mae hi’n haws gwneud HTML yn hygyrch i bobl gydag anableddau megis pobl dall na fformat PDF.

    Dw i’n gobeithio bod hyn i gyd o gymorth.

Mae'r sylwadau wedi cau.