Hacio’r Iaith yn Llundain?

Neges gan Marc Webber:

Os diddordeb gan Hacio’r Iaith am drefnu sesiwn yn Canolfan Cymry’n Llundain rhywbryd?

Bydd e’n siawns i gwrdd a gics Gymraeg sy’n weithio yn Lundain ac, fallai, gwrdd a rhai o bobl sy isio gweithio i hybu’r iaith arlein?

Beth wyt ti’n feddwl?

15 sylw

  1. Dychmygaf byddai galw. Dw i ddimyn nabod lot o siaradwyr Cymraeg sy’n byw yn Llundain, ond dw i’n gwybod bod miloedd ohonyn nhw. Off top fy mhen mae rhai pobl adnabyddus yn byw unai yn y ddinas neu’ de ddwyrain Lloegr Jim Killock (Open Rights), Sue Charman (Clwb Malu Cachu a mwy…), Owen Blacker (blaenllaw yn Open Rights a MySociety, ddim yn siwr pa mor hyderus yw e yn ei Gymraeg).

    Petai’n cael ei drefnu i gydfynd ag un o’r gigs yno, falle byddai’n rheswn i rai deithoi o Gymru!

  2. Faswn i wrth fy modd yn cymryd rhan yn rhywbeth fel hyn. O drefnu’r peth yn iawn byddai’n gyfle i dynnu pobol allan o’r woodwork. Pam lai!

    Felly pa fath o sesiwn fasa orau? Meetup? Demos? Rhywbeth BarCamp-aidd agored?

  3. Mae’na nifer o ddysgwyr a siaradwyr o fewn cyrraedd Llundain hefyd, e.e. mae’r daith dim ond awr a 50 muned o Derby i Lundain ar y tren. Felly gad i mi wybod os oes Hacio’r Iaith yn digwydd yn Llundain.

  4. Helo,

    Pawb yn positf am y syniad. Gwych! Deud y gwir, dim cynlluniau bendant gen i am gynnwys sesiwn yn lundain.
    Ond, wi’n gwybod ( fel aelod o Ganolfan Cymru LLundain) dwi’n gallu rhenti ystafell mewn ganolfan a fydd tim rheoli ganolfan yn hapus iawn i gefnogi cyfarfod yno.
    Pwrpas ‘Haciaith a’r daith’ i mi yw tynnu sylw at digwyddiadau/ adnoddau mewn byd technoloeg cymraeg i bobl gymraeg sy’n byw yn Lundain (a Derby, Jonathan!) ond hefyd, i’r bobl yn y byd technoloeg gyffedinol yn lundain.
    Felly cael sesiwnau sy’n ddangos beth sy ar gael twy’r gymraeg nawr, ond hefyd edrych ymlaen i’r dyfodol ac efallai creu perthnasau efo bobl o lundain sy’n gweithio mewn byd digidol yno.
    Beth ydych chi’n feddwl?

  5. Haia pawb. Dwi’n hoffi’r syniad ‘ma hefyd… a nid jest achos bod o’n agos 🙂

    Pryd da ‘ni am gwneud hwn felly?

  6. Medi? 5 mis cyn Hacio’r Iaith diwedd Ionawr 🙂 Fydd hi’n amser dechrau cynllunio hwnna eto cyn i ni droi…

  7. Aye, fysa disgwyl tan ar ol yr Olympics yn syniad da. Fydd rhan ‘na o Llundain yn nuts amser ‘na…

  8. Mae’n bosib y byddaf i yn Llundain rywbryd ym mis Medi – os felly, mi ddo’i. Os am arddangos yr e-fyd Cymraeg beth am wahodd Rory Cellan Jones i wneud rhywbeth i’r Bib – eu Gwasanaeth Bydeang – fyddai’n gallu cyrraedd defnyddwyr ieithoedd lleiafrifol eraill?

Mae'r sylwadau wedi cau.