Hacio’r Iaith Eisteddfod 2012 – cynllunio cynnar

Hacio’r Iaith Eisteddfod 2012

Rydyn ni wedi bod yn trafod y posibilrwydd cyffrous o rywbeth Hacio’r Iaith yn Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg eleni. Nawr mae’r Eisteddfod wedi cynnig lle ac amser i Hacio’r Iaith, sef y pabell Cefnlen ar y maes bob dydd. Rydyn ni’n rhannu gyda’r beirdd o Dalwrn y Beirdd! Diolch i Rhodri ap Dyfrig a Gwenllian o’r Eisteddfod yn bennaf am drefnu’r lle hyd yn hyn.

Bydd y lle yn agored i bawb ar y maes gyda thrydan a di-wi. Bydd sawl cyfle i redeg sesiynau Hacio’r Iaith o bob math fel trafodaethau, gweithdai, prosiectau, blogio, cyflwyniadau…

Cwestiynau i sbarduno syniadau

  • Beth wyt ti eisiau ei wneud? Beth yw dy ddiddordebau?
  • Pwy fyddi di ei wahodd i gymryd rhan?
  • Sut ydyn ni’n gallu gwahodd pobol sydd ddim wedi bob yn rhan o Hacio’r Iaith hyd yn hyn i joio defnydd o’r Gymraeg ar dechnoleg?
  • Sut ydyn ni’n gallu sicrhau cyfranogiad gan bobol o bob math?
  • Beth am gydweithrediad rhwng grwpiau gwahanol?

Skype nos Fawrth

Bydd cyfarfod ar Skype i drafod Hacio’r Iaith Eisteddfod 2012
Nos Fawrth 24ain mis Ebrill
8:30PM
Os wyt ti eisiau cymryd rhan yn y cyfarfod, plis gadawa sylw isod. Fy enw i ar Skype yw morriscarl

Mae’r cyfarfod yn agored i bawb. Os fydd lot o bobol efallai bydd angen defnyddio platfform arall ond cer i Skype ar y dechrau.

Mae’n flin gyda fi os wyt ti’n methu dod i’r cyfarfod. Ond mae sawl modd i gymryd rhan. Y prif beth ydy syniadau ar hyn o bryd ac mae croeso i ti ychwanegu sylw isod gydag unrhyw feddyliau.

Hanes

Gyda llaw dyma’r tro cyntaf rydyn ni’n cael lleoliad cyson ar y maes Eisteddfod. (Mae Hacio’r Iaith wedi cael presenoldeb yn yr Eisteddfod i ryw raddau ers tro gan gynnwys y digwyddiad llynedd yn y stondin Prifysgol Aber, Gorsedd y Gîcs yn Y Bala, sawl sesh sgwrsio yn y pyb… Gyda llaw does dim rheswm i beidio cwrdd yn y pyb eleni hefyd.)

8 sylw

  1. Fili cymryd rhan nos fawrth, ond: –

    Peth pwysig i fi yw ddangos technoleg a gwasanaethau ar gael yn Gymraeg i’r cyhoedd. Dangos fod ti’n gallu defnyddio tydar yn Gymraeg, prynu pethau yn gymraeg, adeiladu gwefan ac yn y blaen.
    Mae rhaid i chi gael bethau i warae efo – iPads efo apps – lle i drio, nid yn unig sgwrsio
    Siawns i gwrdd a cwmniau eraill efo arian neu cyfleusterau tebyg
    Gwahodd gwleidyddion a ‘great and the good’ eraill i’r le i dangos wrthyn nhw beth sy’n digwydd yn y byd tech cymraeg.

  2. Robin a Marc – diolch.

    Marc, syniadau da iawn. Efallai dyw’r gair ‘gweithdai’ uchod ddim yn addas i bob sefyllfa ymarferol. Mae profiad ugain munud ac mae profiad tri munud ac mae’r ddau ohonyn nhw yn iawn. Weithiau mae angen sesiwn ymarferol gyda strwythur ac weithiau mae ymwelwyr yn gallu jyst CHWARAE!

  3. Ymddiheuriadau griw trafod – methu dod mewn i’r sgwrs heno, ond edrych mlaen am y syniadau ddaw allan!

  4. Sgwrs dda ac adeiladol neithiwr. Nawn ni roi rhyw fath o restr syniadau ar y blog ddydd Gwener. Os oes unrhyw syniadau pellach am be ddylen ni wneud yn y cyfamser yna rhowch nhw yn y sylwadau.

    (Mae slotiau rhydd i ni y rhan fwyaf o foreuau a rhwng 3.30 a 6.00 bob dydd).

  5. Dw i’n meddwl roedd Rhos Prys yn trio cysylltu gyda ni neithiwr. Gwnes i golli ei galwad felly mae’n flin gyda fi!

  6. Dim angen i wneud sesiwnau ‘cinio a dysgu’ opb dydd. Ond ar diwrnod brysur y ‘steddfod mae’n bwysig i gael rhywfath o sesiwnau ty hwnt i jest siawns i warae efo pethau.

Mae'r sylwadau wedi cau.