Meic Agored Inventorium – trafod syniadau tech ym Mangor, Ebrill 2012

Dw i’n pasio neges Inventorium ymlaen.

Beth sy’n digwydd i’ch eiliadau eureka?
Beth fyddwch chi’n ei wneud gyda’ch syniad gwych ar ôl ei sgrifennu ar napcyn?

Mae sesiwn Meic Agored Inventorium yn gyfle i chi rannu’r syniadau gorau rydych wedi’u hysgrifennu ar napcyn, ar fat cwrw, ac ar gefn eich llaw.

Mae croeso i unrhyw un alw draw, hyd yn oed heb syniad!

Bydd gennych dri munud i sefyll ar eich traed, bod yn ddewr a chyflwyno eich syniad mwyaf ysbrydoledig a dychmygus i gynulleidfa a fydd yn cynnwys pawb o arianwyr i bobl chwilfrydig, fydd yn gofyn cwestiynau a rhoi eu hymateb yn y fan a’r lle.

Bydd y syniadau gorau yn cael cefnogaeth gan dîm Inventorium ynghylch sut i ddatblygu eu syniadau ymhellach yn fodelau busnes llwyddiannus.

Mae’r sesiwn Meic Agored yn gyfle i chi rannu syniadau, ymarfer cynnig syniadau, dechrau sgwrsio a thrafod, a ffurfio partneriaethau newydd gwych.

Rydym yn estyn gwahoddiad i rai o’r prif arianwyr, sefydliadau’r llywodraeth a busnes, gan gynnwys Croeso Cymru, Xenos, Business Link, y Ffederasiwn Busnesau Bach a Chynghrair Meddalwedd Cymru i fod yn y gynulleidfa. Mae’r sefydliadau hyn mor awyddus â chi i gael syniadau newydd.

Mae syniadau yn gallu ymddangos o unrhyw le, ac wyddoch chi ddim ble byddwch yn cwrdd â’r bobl allweddol, sydd â’r sgiliau i wireddu eich syniad.

Efallai y dewch o hyd i:

Eich partneriaid busnes ar gyfer y dyfodol
Pobl fydd yn buddsoddi yn eich syniad
Rhywun i drafod neu hyrwyddo eich syniad
Cyfaill beirniadol pwysig
Dylunwyr, datblygwyr, arbenigwyr ar gynnwys, sydd eisiau gweithio gyda chi
Arweinwyr masnachol gydag arian a gwybodaeth i’ch cefnogi
Cofiwch, bydd y cynnwys yr un mor gyffrous â’ch cyflwyniad. Tri munud fydd gennych, felly gwnewch eich gorau glas!

Pryd: Dydd Mawrth 17 Ebrill 2012 18.30 – 21.00

Ble: Fat Cat Bangor

I gael gwybod mwy, cysylltwch â jenny@inventorium.org.