Google, Busnesau a’r Gymraeg ( + bonus rant am newyddion Cymraeg arlein)

‘Google yn cynorthwyo busnesau i gael presenoldeb ar y we’ http://www.bbc.co.uk/newyddion/17265560

Ond faint o gymorth fyddan nhw’n ei gael i wneud gwefannau dwyieithog?

Pan ma Google mor llac ei ymroddiad i’r Gymraeg ar chwiliadau, lleoleiddio ei apps ei hun, ac ati dwi’n amau y bydd na. Os nad oes cymorth i greu gwefannau dwyieithog, a mae’r llywodraeth yn talu Google am hyn, oni ddylen nhw?

[Nodyn ochr: pam ddiawl dydi newyddion BBC ddim yn rhoi dolen i ddeunydd craidd y stori? Byddai cael mynediad at y datganiad neu wefan am hyn yn ddefnyddiol iawn. Ma hyn yn wendid enfawr yn newyddiaduraeth Gymraeg arlein. Un o wyth camgymeriad sylfaenol sgwennu ar y we yn ôl Blog Online Journalism: http://onlinejournalismblog.com/2012/02/28/8-common-mistakes-when-writing-for-the-web-and-what-to-do-about-them/ ]

4 sylw

  1. Mae’n bwynt da. Dyw rhestrau Google ‘Local’ ddim ar gael yn Gymraeg. Dyw ‘cyfrif Google’ ddim ar gael (sy’n reit bwysig nawr am ei fod e’n clymu’r holl wasanaethau at eu gilydd). Lle mae Gmail?

    O ran y gwasanaeth newydd, mae nhw’n hyrwyddo gwasanaeth adeiladu gwefan yola.com sydd ddim wedi ei adeiladu gyda anghenion amlieithog mewn golwg.

    Mi fydd Google yn cydweithio gyda rhai cwmniau lleol fel partneriaid ond mi fyddai hynny ar gyfer busnesau mwy sydd yn gallu fforddio talu miloedd am wefan arbennigol. O ran costau cyfieithu ac ati, roedd Bwrdd yr Iaith arfer cynnig grant ar gyfer gwneud y gwaith. Dwi ddim yn gwybod os yw’r cynllun yma yn parhau, yn enwedig gyda’r Bwrdd yn dod i ben.

  2. Dw i ddim yn siŵr os mae’r Llywodraeth yn talu Google, sut maen nhw yn rhoi cymorth ayyb. Mae cwestiwn dilys am natur y cytundeb rhyngddyn nhw.

    Dyw’r Local Champions ddim yn derbyn arian, dw i’n cymryd bod nhw yn hapus i wirfoddoli am y cyfleoedd i gwrdd â chwmniau lleol ac wrth gwrs i weithio gyda GOOGLE™.

    Yn ôl y sôn heno roedd Edwina Hart yn siarad am ‘yr angen meddalwedd a thechnoleg i roi hwb i’r iaith Gymraeg’… Mae lot o argymelliadau yma. Yn fy marn i pe tasai’r Llywodraeth yn mabwysiadu mwy o feddalwedd rydd (fel lot o lywodraethau eraill o gwmpas y byd) basen nhw yn cyfrannu cyfieithiadau i’r cronfa o feddalwedd sydd ar gael yn Gymraeg.

  3. Dwi di cael gwahoddiad i fod ar y Grŵp Technoleg a’r Gymraeg ma Leighton Andrews wedi ei drefnu felly, mi godai y peth gyda nhw i weld be ma nhw’n feddwl. Roedd y strategaeth iaith newydd yn cyfeirio at wella darpariaeth Gymraeg gan gwmniau mawr y we, felly byddai hwn wedi bod yn le delfrydol i ddechrau.

    Croeso i chi unrhywun ar Haciaith i basio unrhyw bethau eraill da chi isio i fi godi yno fyd!

  4. ‘Falle dw i’n rhy optimistig neu tipyn o fangirl dros Google ond, roedd mwy o Gymraeg a y lansiad na yn y rhan fywaf o ddigwyddiad technoleg. Mwy na un o’r siaradwyr yn siarad yn arbennig am sut bod yn dwyieithog yw rhan pwysig o bywyd Cymru. A sut mae’n bwysig, i defnyddio’r ffaith bron fel rhan o’r ‘brand’. Dw i’n credu bod Google yn gwybod mae iaith yn pwysig i’r wlad – digon pwysig i defnyddio fel mwy na ‘token effort’ yn y marketing beth bynnag!

Mae'r sylwadau wedi cau.