Raspberry Pi a’r Gymraeg

Mae Huw Waters wedi blogio yn esbonio popeth am y cyfrifiadur bach hwn:

Ddoe (29ain Chwefror 2012) cyhoeddodd Sefydliad Raspberry Pi bod ei chyfrifiadur £22 ar gael i’w brynu. Gwerthodd y 10,000 cyntaf o fewn munudau.

Fersiwn i ddatblygwyr sydd ar gael gyntaf, ond bydd fersiwn addysgiadol ar gael erbyn diwedd y flwyddyn.

O safbwynt y Gymraeg, rŵan ydi’r amser i greu adnoddau i’r Raspberry Pi, boed yn gynllun gwersi ar sut i raglennu neu feddalwedd sy’n cyflawni pwrpas arbennig. Gan ei fod am redeg system gweithredu Fedora cod agored gall cael ei gyfieithu a’i leoleiddio i’r Gymraeg yn ddigon hawdd.

Pasiwch mlaen at unrhyw addysgwyr TGCh! Allwch chi feddwl am ddefnyddiau penodol?

Mae Sioned Mills eisoes wedi bathu term Cymraeg amdano sef Crempog Mafon / Crempog Sglodion!

3 sylw

  1. Does dim i stopio pobl ei roi o dan eu teledu a chware fideoau YouTube. Cyfrifiadur rhad i bawn, gyda bwriad da dros ei sefydlu.

Mae'r sylwadau wedi cau.