Haclediad #17 – Yr Un Byw o Hacio’r Iaith 2012

Dyma recordiad byw Haclediad #17, o flaen cynulleidfa eiddgar yn Hacio’r Iaith 2012.

Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn taclo SOPA bill yr Unol Daleithiau, Twitter yn sensro cynnwys am y tro cyntaf, blogiau Cymraeg, cwestiynau’r  gynulleidfa, memes arlein ac yna’n darganfod un o raglenni coll Sci-Fi Cymru yn y broses!

I ddilyn Hashtags y sgwrs a gweld y cwestiynau ddaeth mewn ewch i Storify Bryn

A dyma hi fideo’r Haclediad (os da chi am weld ein wepiau ni).

Recordiwyd ar 28ain o Ionawr.