Hacio’r Iaith Bach – ydach chi am drefnu un?

Jest i ddilyn fyny ar ein galwad ar ddiwedd Hacio’r Iaith, roedden ni’n awyddus iawn i drafodaethau barhau drwy’r flwyddyn mewn cyfarfodydd / meetups llai o gwmpas y wlad. Felly, os da chi isio sgwrs efo pobol eraill am syniadau / eich busnes / neu am eich blog yna: pigwch ddyddiad, pigwch leoliad, a hysbysebwch o fama neu ar http://hedyn.net

Sdim rhaid iddo fod yn fawr, gall cyfarfod o ddau fod yn ddefnyddiol iawn i wyntyllu problemau neu syniadau.