Hacio Eisteddfod Bro Morgannwg 2012?

Dim ond cofnod sydyn sydyn i nodi bod hi’n bur bosibl y bydd na safle penodol gyda Di-Wi, sockets trydan, a gofod trafod / cyflwyno ar gael i bobol sydd isio blogio o’r steddfod, cynnal gweithdau neu sesiynau trafod. Does dim byd wedi ei gadarnhau eto, ond dwi’n gobeithio clywed yn fuan am fanylion. O be dwi’n ddeall mae mewn safle gwych ac o bosib un o;’r datblygiadau mwyaf cyffrous o ran rhoi lle teilwng i gyfryngau digidol annibynnol Cymraeg yn yr Eisteddfod.

Tra’n bod ni’n aros am gadarhnad be am daflu ambell syniad am sut gellid defnyddio’r gofod i’w botensial, a pwhy fyddai a diddordeb ei ddefnyddio.

Dyma ambell syniad i ddechrau:

– sesiynau drop-in ar gyfer dysgu am gyhoeddi arlein a defnydd cyfryngau gwe ar gyfer cymdeithasau / Merched y Wawr / papurau bro ayyb (syniad Sioned Mills oedd hwn dwi’n meddwl)
– sgyrsiau rownd bwrdd amser cinio (nid darlithoedd) nid am ‘beth yw blogio’ ond am agweddau spesiffig iawn o ddylanwad / potensial y rhyngrwyd / technoleg symudol ar ein cymdeithas(au)
– demos o wefannau
– bod yn rhyw fath o ystafell y wasg ar gyfer cyfryngau sifig

Be chi’n feddwl?