Diweddglo Hacio’r Iaith 2012 – gwerthusiad

Diolch i bawb wnaeth dod i gymryd rhan yn y drydedd Hacio’r Iaith yn Aberystwyth ddoe! Diolch hefyd i’r noddwyr am sicrhau mynediad am ddim a bwyd eleni. Mae mwy o gofnodion i ddod am y digwyddiad gan gynnwys nodiadau, fideos ac ati.

Yn y cyfamser, ar diwedd y dydd cawson ni sesiwn i drafod fformat y digwyddiad, y lleoliad, sut ydyn ni’n gallu gwella popeth, ayyb. Roedd lot o sylwadau da a defnyddiol ond roedd rhaid i rai o bobol gadael erbyn hynny. Felly o’n i eisiau creu’r cyfle i bostio sylwadau am y peth fel gwerthusiad bach pan mae atgofion dal yn ffres.

Cwestiynau i annog sylwadau isod: Pa elfennau oedd yn dda? Pa elfennau oedd angen eu newid ac oes modd gwella’r digwyddiad unrhyw sut? Sut ydyn ni’n gallu cynrychioli grwpiau, diddordebau neu fathau gwahanol o berson – fel petai – tro nesaf? Sut fyddi di ddefnyddio allbwn y digwyddiad? Fyddi di’n ystyried cymryd rhan eto?

Mae rhaid dweud bod Hacio’r Iaith yn dibynnu yn llwyr ar wirfoddolwyr ac mae pawb sydd yn dod yn cyfrif fel rhan o’r cyd-weithrediad. Felly os oes gyda ti awgrymiad penodol efallai mae modd cyfrannu help rhywsut…

Fel arall rwyt ti’n gallu blogio cofnod bach ar dy flog personol. Mae croeso i ti postio’r dolen i’r cofnod fel sylw.