Wedi 7 a @llef yn trafod technoleg, y we Gymraeg a Hacio’r Iaith ar #s4c

http://www.s4c.co.uk/clic/c_level2.shtml?series_id=454513805 (dolen yn dod i ben mewn 6 diwrnod)
Mae’r sgwrs yn dechrau 08:00.
Sgwrs da iawn, mwy plis!
Oes lle am raglen reolaidd ar y teledu i drafod defnydd o dechnoleg mewn cymdeithas ac yng Nghymru, y heriau, y problemau, y cyfleoedd (yn hytrach na jyst gadjets newydd)?


Rhodri ap Dyfrig 12:15 AM ar 25 Ionawr 2012 Dolen Barhaol
Wn i ddim am deledu, dwi’n ffeindio Y Lle Feiral yn anhygoel o ddall i unrhyw gyd-destun Cymraeg i dechnoleg. Neu ydw i jest di gweld y rhaglenni rong?
Fasa’n amêsing cael rhaglen fel The Stream ar Al Jazeera, lle mae technoleg yn rhan o wead y rhaglen (ffeindio storis, curadu storis, cyfweld pobol heb orfod anfon camera allan ayyb), ac lle mae’r rhaglen yn trafod drafod defnyddiau cymdeithasol a gwleidyddol pobol o’r dechnoleg ledled y byd.
Bydda rhaglen sydd yn mynd allan yn fyw arlein yn wythnosol ar amser penodol, gyda’r holl beth ar gael ar bob cyfrwng dosbarthu fel podlediad arol hynny yn wych.
A Sioned fel anchor
Hacio’r Iaith 2012 | Gwenu Dan Fysiau 8:39 AM ar 25 Ionawr 2012 Dolen Barhaol
[...] Sioned i wireddu breuddwyd oes a chael ei hun ar soffa Wedi 7 gyda John Hardy i drafod y [...]
Carl Morris 1:08 PM ar 25 Ionawr 2012 Dolen Barhaol
Ie o’n i’n meddwl am Y Lle Feiral. Lot o botensial ond brochure-wedd ar hyn o bryd.
Menna Machreth 3:51 PM ar 25 Ionawr 2012 Dolen Barhaol
Rhodri, syniad da am y rhaglen, beth am greu rhaglen enghreifftiol a’i drio allan ar Sianel 62? Bydd Sianel 62 yn sianel ar y we ac yn gwahodd cyfraniadau rhaglenni wrth unrhyw aelodau o Gymdeithas yr Iaith rhwng Chwefror a Gorffennaf. Beth am ofyn pwy sydd â diddordeb dydd Sadwrn?
Rhodri ap Dyfrig 10:53 PM ar 26 Ionawr 2012 Dolen Barhaol
Pe bai ond yr amser gen i Menna…