Ryff geid Bryn Salisbury i wneud y mwyaf…

Ryff geid Bryn Salisbury i wneud y mwyaf o’ch Hacio’r Iaith cyntaf – wedi ei gyhoeddi’n wreiddiol ar ei flog: Persona Non Grata: Hacio’r Iaith – Hacio’r Beth? | Hacking what?” ac ar flog Golwg360.

Mewn ychydig dan wythnos, bydd Aberystwyth yn leoliad ar gyfer Hacio’r Iaith 2012 (28ain Ionawr 2012). Hwn fydd y trydydd digwyddiad, ac un o’r ‘barcamps’ mwyaf yng Nghymru.

Mae llawer wedi gofyn i mi esbonio beth yn union ydi ‘bar camp’… wel…

Mae bar camp yn fath arbennig o gynhadledd sy’n cael ei ddisgrifio yn Saesneg fel ‘unconference’, does dim amserlen, dim digwyddiadau na siaradwyr wedi ei drefnu… mae popeth yn cael ei drefnu ar y diwrnod.

Ydi, mae’n swnio’n wallgof, ond mae’n gweithio. Mae’r amserlen yn cael ei benderfynu ar y diwrnod gan bawb sy’n troi lan. Mae pawb yn cael ei annog i arwyddo lan a siarad ar unrhyw bwnc maen nhw eisiau. Er bod thema’r digwyddiad ydi technoleg, mae’n bosib dehongli hyn mewn sawl ffordd i siarad am unrhyw bwnc, ac mae’n bosib trafod unrhyw beth o effaith polisi’r llywodraeth ar ddefnydd y we, i hanes ‘memes’ y rhyngrwyd.

Dwi wedi bod i sawl digwyddiad o’r math ‘ma, ac mae pethau’n gallu bod mor eang â ‘ny… yn ystod Barcamp Llundain 2011, ddaru cannoedd o bobl troi lan i wrando a siarad. Mewn un ystafell, roedd dynes yn disgrifio ei gwaith hi o adolygu siocled ar ei gwefan hi (roedd hi di dod a rhywfaint o siocled hefo hi!), tra mewn ystafell arall, roedd blogiwr wisgi yn rhedeg sesiwn “Absinthe for Beginners”, tra mewn ystafell arall roedd person yn rhedeg sesiwn ar greu gemau ar gyfer yr iPhone. Y peth gwallgof? Roedd hyn i gyd o fewn yr un awr!

Ar ddechrau’r dydd, fydd y bobl yno yn ymgasglu wrth y ‘grid’ a rhoi lawr pa drafodaeth maen nhw eisiau cynnal. Fel dwi wedi sôn yn barod, mae’n bosib siarad am unrhyw beth (fel i mi ddweud, siocled ag absinthe…). Y cwestiwn nesaf yw, oes *rhaid* i mi siarad?

Wel, does dim *rhaid* i chi… ond dylsa chi gwneud. Mae pawb sy’n dod eisiau gwrando ar drafodaethau a ballu. Maen nhw *eisiau* clywed gynoch chi. Does neb yn mynd i waeddi, codi cywilydd na gwneud hwyl ohonoch. Maen nhw eisiau clywed gan bobl wybodus gydag angerdd at y pwnc dan sylw. Does dim angen creu Powerpoint, does dim angen wbath technegol, does dim rhaid paratoi dim. Yn llythrennol, dim ond angen i chi arwyddo lan am slot, a siarad. Mae’r holl beth amdanoch chi’n rhannu eich angerdd a’ch gwybodaeth.

Gallwch drafod rhywbeth sy’n eich diddori chi, dangos prosiect da chi’n gweithio arno, neu gynnal trafodaeth ar bwnc llosg. Jest angen i chi ddewis enw, amser a bant a ni!

Eisiau syniadau? Cymrwch olwg ar y tudalen ‘ma oddi ar Lanyrd.com, mae ‘na restr o bron i 1000 o sesiynau mewn cannoedd o barcamps dros y byd gan gynnwys “Fancy a Pint?” yn Barcamp Llundain (un o rhai fi! Ddaru mi gyfarfod y cyd-gyflwynydd y bore ‘na, ac erbyn y pnawn mi ddaru ni gyflwyno’r sesiwn trafod gydag ystafell lawn o bobl… dim PowerPoint na dim), neu “How to Podcast for Free” o Barcamp Lerpwl (dim un o rhai fi…). Fel ddaru mi ddweud, *unrhyw beth*.

Os eich bod chi ddim yn siŵr am wneud sesiwn, fe allwch chi gysylltu gyda fi cyn dydd Sadwrn nesaf (bryn.salisbury@gmail.com, neu @bryns ar twitter), neu ofyn i mi ar y diwrnod. Dwi wedi cael profiadau gwych yn gwneud sesiynau mewn barcamps, a dylsa chi gael hefyd. Mae’n siawns da cael ymarfer siarad yn gyhoeddus o flaen cynulleidfa sydd eisiau clywed gynoch chi, ac eisiau eich cefnogi.

Heblaw am y sesiynau, fe gewch chi gyfle i wylio Sioned (@llef), Iestyn (@iestynx) a finnau yn recordio’r Haclediad o flaen cynulleidfa fyw. Fydd y peth yn wych. Mae’r flwyddyn ‘ma yn siapio lan yn arbennig o dda, a hwn fydd y flwyddyn fwyaf erioed, a dwi wedi gwirioni. Os eich bod chi heb fod o’r blaen, mae ‘na deimlad gwych o ymgasglu gyda grŵp mawr o bobl sydd gydag angerdd dros bwnc. Fydda chi’n gadael ac eisiau dechrau tomen o brosiectau newydd yn syth bin… a chofiwch, fydd ‘ny yn rhoi digon i chi drafod yn Hacio’r Iaith 2013!

Gwnai weld chi yno bois!

B