Cofnod Cymraeg – y ffordd ddiog? Gofyn am esboniad

Mae cofnod Cymraeg o drafodaethau llawn y Cynulliad wedi cael eu cyhoeddi am y tro cyntaf ers Gorffennaf 2010. […]

http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/63138-cyhoeddi-cofnod-cymraeg-cyntaf-y-cynulliad-ers-2010

(Ond methu gweld e ar y wefan ar hyn o bryd. http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-chamber-fourth-assembly-rop.htm )

[…] Ond ym mis Tachwedd y llynedd fe gyhoeddodd Comisiwn y Cynulliad y byddai’r gwaith o gyfieithu’r Cofnod yn ail-ddechrau o fis Ionawr eleni.

Bydd y cofnod yn cael ei gyfieithu drwy dechnoleg Google Translate o hyn ymlaen, gyda chyfieithwyr proffesiynol yn adolygu’r gwaith cyn ei gyhoeddi. […]

Sut mae Google Translate yn gweithio? Wel, mae’r peiriant ystadegol yn cael ei bwydo gyda fersiynau o ddogfennau mewn ieithoedd gwahanol. Un o’r ffynhonnellau oedd/yw’r Cofnod, mae’n debyg. Dw i wedi mynegu pryder fan hyn o’r blaen a dw i dal yn poeni am fwydo’r gwasanaeth gyda’i allbwn ei hun.

Cofia pan oedd gwartheg yn sâl yn eu meddyliau achos roedd ffermwyr drwg yn bwydo nhw gyda’u rhieni? Fydd y dull Google Translate yma yn achosi rhyw fath o Enceffalopathi Sbwngffurf Gwartheg ieithyddol?

Ydyn nhw wir yn defnyddio Google Translate. Allai rhywun esbonio sut mae’r cynllun yma yn syniad da?

7 sylw

  1. O be ydw i’n ei ddeall mae’r Seasneg yn cael ei fwydo i mewn i GT ac yna mae cyfieithwyr proffesiynol yn ei olygu. Fe allai fod yn beth da i GT mewn ffordd gan smwddio lot o’r gwallau iaith sydd ynddo. Ond o ystyried safon cyfieithiadau’r meddalwedd ar hyn o bryd dwn i ddim faint o amser y bydd yn ei arbed i’r defnyddwyr. Efallai y byddai ryw dechnoleg cof cyfieithu proffesiynol yn gwneud jobyn gwell?

  2. Carl: Alli di esbonio chydig mwy am y broblem o fwydo’i hun ar ei hun a sut bydd hyn yn llygru algorithmau Google Translate? Ges ti ymateb gan y Cynulliad i dy ebost atyn nhw, gyda manylion y dull? Os naddo, pam?

  3. Ond os yw’r cyfieithiad o’r cofnod wedi cael ei wirio a’i olygu gan gyfieithwyr dynol cyn ei gyhoeddi ar y we, yna siawns mai gwella ansawdd GoogleTranslate fydd hyn, nid ei waethygu? Dim ond petai’r Cynulliad wedi bod digon dwl i gyhoeddi cyfieithiad gwallus (gan Google Translate ei hunan) bydda yna beryg o ‘Enceffalopathi Sbwngffurf Gwartheg’ ieithyddol, nage ddim?

  4. “Ond os yw’r cyfieithiad o’r cofnod wedi cael ei wirio a’i olygu gan gyfieithwyr dynol cyn ei gyhoeddi ar y we, yna siawns mai gwella ansawdd GoogleTranslate fydd hyn, nid ei waethygu?”

    Dyna sut ydw i’n deall pethau hefyd. Mae i gyd yn dibynnu ar lwyth gwaith y cyfieithwyr – ydyn nhw’n mynd i wirio’n camgymeriadau mawr yn unig a gadael rhai o man-wallau Google Translate neu ydyn nhw’n mynd i wirio popeth. Mae’r talp o’r cyfnod roeais i ddolen iddo uchod yn awgrymu fod y cyfieithiad yn eithaf caboledig.

  5. Dwi’n gweld hyn fel ffordd peryglus, sydd wedi cael ei nodi fel Enceffalopathi Sbwngffurf Gwartheg uchod.

    Byswn i’n cymharu’r peth i be maent yn ei wneud gyda Masnachu Amlder Uchel. Yn Llundain ac Efrog Newydd etc. gyda Dow Jones a’r FTSE, maent yn defnyddio uwch-gyfrifiaduron i fasnachu fel mae unigolion ar y llawr yn ei wneud, gan redeg modelau oddi ar algorithmau (patrymluniau / rheolau pendant). Fel pob model gwyddonol, mae’r model yn ffitio ar y cyfan ond nid yn berffaith, sy’n golygu bod angen cyflwyno rhywbeth sy’n atgyweirio hyn fel ei fod yn dilyn bywyd go iawn.

    Problem sy’n digwydd yn aml gyda’r uwch-gyfrifiaduron enfawr a drud ma yw cwympoedd, sydd fel arfer yn cael eu cadw’n ddistaw. Mae algorithm yn edrych am amodau penodol cyn ymateb. Pe bai achos o ryw amod yn digwydd dro ar ôl tro sy’n golygu bod y model am werthu cyfranddaliadau drosodd a throsodd, mae’n arwain at gwymp bach. Nid yw pobl yn disgwyl hyn, ond mae’n digwydd. Mae’n ryw fath o gyseiniant.

    Gall yr union un peth ddigwydd gyda Google Translate. Mae Google yn defnyddio patrymlun neu set o reolau. Mae’n edrych am un peth cyn ymateb gyda’i awgrymiad. Pe bai ryw gamgymeriad bach yn cael ei fethu yn y prawf-ddarllen, mae’n cael ei dderbyn a’i fwydo’n ôl i system Google. Y tro nesaf, bydd y cymagymeriad yn gallu bod yn fwy.

    O’m mhrofiad personol, petawn i’n ysgrifennu rhywbeth yn gyflym gyda’r bwriad o fynd yn ôl a’i ail ysgrifennu/strythuro mae’n anodd iawn. Mae’r testun gwreiddiol yn fy rhoi mewn trap o ryw fath, gan ei wneud hi’n anodd dychmygu sut i’w ysgrifennu’n wahanol. Sut ydym yn gwybod na fydd cyfeitihiwyr yn cael yr un broblem?

    Pwynt arall: mae’n WARTH. Dibynnu am wasanaeth am ddim sydd wedi ei sefydlu gan ychydig o playboys yng Nghaliffornia i greu dogfennau cyfrieithiol Cymraeg?!

    Be ma i’r Gynulliad (dene be dio os maent yn gneud penderfyniadau felly – siambr cyngor tref) gweithredu trwy’r Gymraeg, a wedyn defnyddio Google Translate i’w gyfeitihu i’r Saesneg?

Mae'r sylwadau wedi cau.