eLyfrau Cymraeg yn dod i Gwales.com

Mae Cyngor Llyfrau Cymru a Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor wedi bod yn brysur yn creu y sylfaen i ddod a eLyfrau Cymraeg i’r farchnad.

Mae Canolfan Bedwyr wedi gwneud llawer o ymchwil ac wedi creu’r Adroddiad eGyhoeddi yn y Gymraeg (copi Saesneg). Mae llawer o bethau diddorol yn yr adroddiad, gormod i mi ddisgrifio fan hyn, ewch i ddarllen o!

Y pethau mwyaf diddorol i mi ddoth allan ohono oedd y ffaith fod gwefan Gwales yn mynd i fod y canolfan i werthu yr holl eLyfrau Cymraeg. Mae hyn wrth gwrs yn opsiwn i pob cyhoeddwr ac efallai yn haws na gwerthu eu llyfrau ar gwefannau eu hunain. Mi fydd safle Gwales yn defnyddio Gardners Books fel warws yr eLyfrau, mae hyn hefyd yn eu galluogi i werthu drwy yr iBookstore gan Apple a gwefan Waterstones yn hawdd iawn gan eu bod wedi partneru hefo nhw i gyhoeddi i’r ddau safle. Yr unig drwg welai yn hyn yw fod Gardners yn defnyddio DRM Adobe, ac mi oeddwn i yn gobeithio fuasai Cymru yn arwain y ffordd a peidio defnyddio DRM ar eu llyfrau gan rhoid ffydd ynom ni fel pobl gonest i beidio rhannu y llyfrau allan (erthygl dda ar hyn ar Gigaom.com).

Ond mae llawer iawn o ddyfeisiadau yn cefnogi y math yma o DRM, yr un dyfais poblogaidd sydd ddim yn ei gefnogi yw’r Amazon Kindle. Ar y funud mae pawb i weld eisiau gwerthu ar y Kindle ond rwy’n gobeithio os fydd gymaint o gyhoeddwyr yn cyhoeddi yn y fformat ePub mi fydd rhaid i’r Kindle cefnogi hyn yn y pen draw.

Does dim dyddiad pendant i’r lansiad yma ar Gwales.com ond mi fydd yn bendant yn dod yn 2012. Felly os ydych yn awyddus i gael darllenwr eLyfrau y Nadolig yma cofiwch ddweud wrth Siôn Corn mai nid Kindle da chi eisiau.

9 sylw

  1. Datblygiad diddorol iawn. Wrthi’n mynd trwy’r adroddiad Bedwyr. Diolch Iestyn.

    Sut mae Gwales yn gweithio gyda chyhoeddwyr ar hyn o bryd – dw i’n gwybod am yr arian cyhoeddus ond pa fath o fenter ydy e? e.e. ydyn nhw yn cadw rhan o’r gwerthiannau? Ydyn nhw yn ‘cystadlu’ gyda Palas Print, Siop y Pethe, Caban a chwmniau eraill? Jyst gofyn.

    Dw i wedi bod yn meddwl pa mor llwyddiannus bydd y marchnad Kindle heb DRM. Pa mor anochel fydd dyfodol Kindle heb DRM, ydy e’n polisi dros dro? Maen nhw yn colli arian ar bob Kindle Fire achos prif busnes nhw ydy’r cynnwys. O leiaf prif busnes Apple yw dyfeisiau ac os rydyn ni’n ystyried Apple iTunes Store fel cynsail roedd DRM ar cynhyrchion iTunes Store am chwe blynedd cyn iddyn nhw cael gwared â’r DRM. Ond roedd y dyfeisiau yn ‘agored’ i MP3 ers y dechrau heb gymaint o ffwdan â’r sefyllfa Kindle. Felly does dim lot o siawns yn fy marn i.

    Oes modd creu ‘gwrth-hysbyseb’ Kindle ar gyfer Nadolig yma?!

  2. Diolch Iestyn, fel ti’n gwbod roedd hi’n gyd-ddigwyddiad od pnawn ‘ma pan wnes i alw heibio wrth iti bostio hwn ar y blog. Roedd Mam newydd gynnig prynu Kindle i fi fel anrheg penblwydd a do’n i ddim yn siwr be i ddeud felly ddois i draw i holi dy farn! Wnes i son wrth mam nad ydi Amazon yn cefnogi llyfrau Cymraeg. Mae hi’n dweud bod ‘na ffordd o drosglwyddo fformats eraill i’r Kindle drwy’r PC….? Dwi dal ddim yn siwr be i wneud! Dwi yn prynu llawer o lyfrau Cymraeg ac yn hoffi cefnogi fy siop lyfrau lleol http://www.palasprint.com . Dwi hefyd yn prynu nifer o lyfrau llais arlein. Mae gen i app Kindle i’r Iphone a wnes i ddarllen llyfr Chris Cope The Way Forward ar hwnnw. Ydw i angen E-reader hefyd…?!

  3. Dibynnu faint o ddarllen tisho neud, i fi mae’r iPhone rhy fach. Mae’r ipad yn gret ond yn ddrud. Mae na llwyth o ddyfeisiadau da allan yna, problem y Kindle yw fod y llyfrau yn gaeth iddo, ond os ti’n ddigon barod malu cach efo Calibre mi fydd yn iawn, a mi fyddi di yn gallu rhoi llyfrau Cymraeg arno.

  4. Gwales – rhan o Cyngor Llyfrau yw e. Mae CLlC yn ‘distributor’ fel Gardners, ac maen nhw prynu llyfrau o’r cyhoeddwyr, at discount, wedi, gwerthu i’r siop llyfrau yng Nghymru. Mae warehouse yn Aberystwyth, ac mae ‘reps’ syn teithio i werthu llyfrau Cymraeg/Cymreig i’r siopau llyfrau. Dw i’n credu tua pob cyhoeddwyr yng Nghymru yn defnyddio CLlC achos mae’n defnyddiol. Mae siop llyfrau siwr o fod yn defnyddio hefyd, as well as archebu llyfrau trwy’r Gardners ayyb o Loegr. (sorry for spelling mistakes)

  5. Hysbysiad Cyfeirio: E-lyfrau | Pethe

Mae'r sylwadau wedi cau.