Fy newis ar gyfer Diwrnod Ada Lovelace: Elin Rhys

Dwi’n credu bod diwrnod Ada Lovelace yn syniad gwych, a dwi di blogio am ddwy ddynes o Gymru sydd wedi bod yn ddylanwadol ym myd technoleg Cymru o’r blaen: Elen Rhys a Delyth Prys. Tro ma dwi’n mynd i sôn am Rhys arall; rhywun sydd yn ysbrydoliaeth ym myd gwyddoniaeth yn ogystal â thechnoleg.

Mae Elin Rhys yn haeddu sylw heddiw oherwydd ei pharhad di-flino i ddathlu a hyrwyddo gwyddoniaeth yng Nghymru a thu hwnt. P’un ai trwy raglenni teledu a radio neu trwy siarad yn gyhoeddus, mae hi wastad yn ceisio rhoi llais i wyddoniaeth mewn cyd-destun Cymreig sydd yn aml â gogwydd gref tuag at y celfyddydol. Mae’r erthygl hon ganddi ar Dr. Eirwen Gwynn yn enghraifft dda dwi’n meddwl.

Er iddi adael gweithio fel gwyddonydd gyda Dŵr Cymru ym 1984, mae wedi parhau i fod yn weithgar yn y maes, a hynny’n dod trwodd yn amlwg yn ei gwaith teledu yn cyflwyno ac yn nes mlaen gyda Telesgôp, y cwmni sefydlodd hi ym 1993. Mae nifer fawr o’r rhaglenni mae hi wedi eu cynhyrchu yn dod o berspectif gwyddonol, yn aml o berspectif addysgu, esbonio a thynnu’r dirgelwch o wyddoniaeth.

O’r ongl dechnoleg mae gwasanaethau fel Ffermio.tv yn dangos ei gweledigaeth flaengar a bod technolegau newydd yn rhywbeth sydd fod o ddefnydd i bawb, ac nid yn rhywbeth elitaidd.

Bob tro dwi wedi cyfarfod Elin mae hi wastad â diddordeb mewn pobol eraill ac mae ei brwfrydedd gonest yn trosglwyddo i rywun rywsut. Dwi’n siwr bod hi wedi ysbrydoli nifer fawr o bobol ond dwi’n meddwl bod ei rôl hi gyda gwyddoniaeth yng Nghymru yn arbennig o bwysig o ystyried cyn lleied o fenywod sydd yn cael sylw yn y maes.

Mewn cyfweliad Twitter gyda’r Western Mail yn 2010 mae hi’n nodi tamaid o gyngor gafodd hi gan ei bos tra’n gweithio gyda Dŵr Cymru:

if you want to see your name on the map, publish your own map.

Cyngor da – ond dwi’n meddwl bod ti di cyhoeddi sawl map! Diolch Elin.

1 sylw

Mae'r sylwadau wedi cau.