Hacio’r Iaith cyntaf 2012 yn digwydd yn Aberystwyth ar y 28 Ionawr

Rydyn ni wedi penderfynu cadw at yr un lleoliad ar gyfer Hacio’r Iaith Ionawr 2012 felly sdiciwch o yn eich dyddiaduron!

Y penderfyniad arall oedd y byddai mwy nag un Hacio’r Iaith yn digwydd mewn lleoliadau gwahanol, ond rydyn ni angen help i drefnu rheiny. Os da chi isio trefnu diwrnod o drafod a chreu yna gadwch neges yma, ar Twitter neu lle bynnag, a byddwn ni’n trio helpu i neud iddo fo ddigwydd. Mae sôn ar hyn o bryd am Gaerdydd a Blaenau Ffestiniog…be da chi’n feddwl?

Eich digwyddiad chi ydi o, felly plis defnyddiwch y Wici i sgwennu am beth rydych chi awydd gwneud, neu beth rydych chi awydd ei weld yn digwydd yno. Ac os ydych chi’n gallu helpu ni ar yr ochr ffilmio/streamio/golygu (oedd braidd yn wan yn 2011) yna fasen ni’n falch iawn,iawn o unrhyw gymorth.

Os ydych chi eisiau rhoi cyfraniad nawdd bach tuag at redeg Hacio’r Iaith yna mae manylion yma.

Byddwn yn gadael i chi wybod sut i gofrestru yn y man.

Edrych mlaen yn arw rwan! Brysied Ionawr 2012…

3 sylw

  1. Gwych!

    Caerdydd – rydyn ni wedi cwrdd yn y pyb/Chapter sawl gwaith (sy’n dda) ond bydd rhywbeth mawr yn wych.

    Hoffwn i awgrymu Abertawe (neu’r cylch) hefyd… Unrhyw galw?

  2. Helo bobol Abertawe!

    Fase hynny’n hwyl. Siwr bod digon o gîcs Cymraeg yn y Brifysgol, Tinopolis, Telesgôp a chwmniau gwe lleol i wneud diwrnod difyr iawn.

Mae'r sylwadau wedi cau.