Defnyddio Foursquare i gael gwasanaeth Cymraeg

Dwi wedi biod yn trio meddwl am ddefnyddiau Cymraeg o Foursquare ac wedi cael syniad bach allai fod yn ddefnyddiol iawn os fasai digon o bobol yn gwneud rhywbeth tebyg i lefydd eraill. Mae’n bosib creu rhestrau o lefydd ar thema benodol yno (e.e. caffis gorau yn ol defnyddiwr x) ond dwi di dechrau rhestr o lefydd yn Aberystwyth lle gellir cael gwasanaeth Cyrmaeg.

Gallech chi hyd yn oed roi haen arall o fanylder a nodi faint o bobol sydd yn siarad Cymraeg yno, profiad da/gwael, yn yr adran Tips am y lleoliad.

Dwi hefyd wedi agor y rhestr fel bod fy ffrindiau ar Foursquare yn gallu ychwanegu ato hefyd. Torfoli, iei!

Os ydach chi’n byw yn Aber, ar Foursquare, isio cyfrannu, a dwi ddim yn dilyn chi yna anfonwch neges.

Byddai’n rhywbeth efallai gallai Bwrdd yr Iaith ei ddefnyddio ar gyfer bathodynnau ‘iaith gwaith’ rhithiol pe bai’n sefydlu ei hun fel ffordd o nodi hyn.