Llyfrgell Gen yn cymryd rhan mewn Hackathon casgliadau digidol

http://llgcymru.blogspot.com/2011/09/sgons-archifau-thragwyddoldeb.html

Mae sut i ddod ag archif hybrid – papur a digidol – at ei gilydd yn her gadwraethol i ni yn y byd archifol. Yn fuan, byddaf i a rhai eraill o staff y Llyfrgell yn mynychu Hackathon yn Efrog, lle byddwn yn edrych ar daclo rhai o’r cwestiynau hyn gyda chydweithwyr ledled Ewrop. Ond ystyriaeth bwysig iawn yn hyn i gyd hefyd yw sut yr hoffech chi ddarllenwyr, ddefnyddwyr ac ymchwilwyr ddod at y deunyddiau aml-gyfrwng hyn? Wrth rannu, fel y gwêl yr Athro, rydym ni’n cynyddu gwerth – byddem ni’n gwerthfawrogi’n fawr petaech chi’n rhannu eich syniadau gyda ni.

Sgennoch chi syniadau i’w rhannu?

1 sylw

  1. Gret – hoffwn i weld sesiwn hacio ymarferol yng Nghymru. Mae croeso i bobol yr Amgueddfa rhedeg rhywbeth tebyg yn Hacio’r Iaith, er enghraifft!

Mae'r sylwadau wedi cau.