Help! Cyfieithu doodle.com

Beth yw Doodle?

Mae trefnu cyfarfodydd gallu bod yn her weithiau.

Os wyt ti’n trefnu cyfarfod gydag un person mae’n hawdd – ffonio a threfnu dyddiad.

Ond bob tro rwyt ti’n ychwanegu person arall ac yn trio trefnu trwy ebost mae’n lletchwith. Dyma pryd mae Doodle.com yn defnyddiol iawn – mae un person yn gosod yr opsiynau ac wedyn mae dolen i ‘ffurflen’ bach iawn ar y we gyda’r opsiynau. Dylet ti ei trio tro nesaf yn lle ebost.

Rhai o’r ieithoedd mae Doodle yn cynnig:
English
Deutsch
Français
Italiano
Rumantsch
Brezhoneg
Ceština
Esperanto
Español, …

Ond dim Cymraeg… ar hyn o bryd.

Cyfieithu

Dw i wedi gofyn Doodle os rydyn ni’n gallu cyfieithu’r system i Gymraeg – ac maen nhw wedi ateb gyda’r brawddegau:
https://docs.google.com/spreadsheet/pub?hl=en_GB&hl=en_GB&key=0Ah3kl0HrcZsDdHRDaUphS2hqYmlDLVdOODU2ZzRVUVE&output=html

Gofynna am fynediad i’r dogfen yn y sylwadau isod os ti eisiau helpu.

Manteision?

  • Cael teclyn defnyddiol iawn yn Gymraeg
  • Brawddegau ar gael i bawb os mae pobol eisiau eu hailddefnyddio
  • Enghraifft dda i gwmnïau, gwasanaethau a dylunwyr systemau – mae pobol eisiau darpariaeth Cymraeg
  • Enghraifft dda i bobol Cymraeg – mae darpariaeth Cymraeg yn bosib

Ym mhersonol dw i’n fodlon helpu er mwyn sicrhau’r manteision uchod. Mae croeso i ti helpu.

6 sylw

  1. Dw i’n caru Doodle – gwasanaeth defnyddiol iawn.

    (Wedi cael trafferth golygu’r ddogfen. Os ti wedi danfon gwahaddiad at fy nghyfeiriad ebost @gmail.com, alli di ai ailanfon at @googlemail.com, neu vice-vesa)

  2. Huw a Rhys – dw i wedi’ch gwahodd i’r dogfen. Diolch.

    Neges gan Doodle:

    Hi,

    Thanks for your help. Please find attached the spreadsheet. Let me know if you have any questions.

    Product Names like MyDoodle, Premium Doodle, MeetMe, Calendar Connect etc. shouldn’t be translated please.

    Best regards,
    Reto

Mae'r sylwadau wedi cau.