adolygiad.com – archif o adolygiadau byrion yn Gymraeg

Awgrymodd Simon Brooks a Malan Wilkinson syniad am wefan o adolygiadau byrion am fwyd a bwytai, archif awtomatig o trydariadau gyda’r tag #adolygiad
Mae pobol wedi bod yn adolygu pethau eraill gyda thagiau eraill hefyd, e.e. ffilm
Mwy o hanes tu ôl y syniad

Mae Twitter yn cadw pob trydariad ond dyw e ddim yn mynegeio felly ti’n methu chwilio’r archif. Mae Umap yn cadw archif o drydariadau Cymraeg ond mae’n methu weithiau achos mae’n trio adnabod yr iaith sydd wedi cael ei defnydd.
1. Dw i wedi ei adeiladu. Cer i’w weld.

http://adolygiad.com

(dw i’n gwybod bod rhai ar goll, dw i’n eu mewnforio nhw ar hyn o bryd)

2. Bydd y wefan yn gasglu pob trydariad gyda’r tag #adolygiad – plis postia adolygiad i’w brofi. Bydd y trydariad yn dangos mewn awr (dw i ddim eisiau gofyn twitter.com yn aml iawn achos mae’n erbyn y termau i gadw archif). Hefyd dw i’n trystio pobol i beidio sbamio gyda’r tag. Bydd rhaid i ni edrych at olygu os mae pobol yn bostio pethau off-pwnc.

Bydd mwy o syniad yn bosib yn y dyfodol, e.e. mapio.

Mae’r syniad yn hollol arbrofol, croeso i ti sgwennu syniadau isod.

Diolch Nic Dafis am help ac i’r gymuned WordPress am feddalwedd GPL!