adolygiad.com – archif o adolygiadau byrion yn Gymraeg

Awgrymodd Simon Brooks a Malan Wilkinson syniad am wefan o adolygiadau byrion am fwyd a bwytai, archif awtomatig o trydariadau gyda’r tag #adolygiad
Mae pobol wedi bod yn adolygu pethau eraill gyda thagiau eraill hefyd, e.e. ffilm
Mwy o hanes tu ôl y syniad

Mae Twitter yn cadw pob trydariad ond dyw e ddim yn mynegeio felly ti’n methu chwilio’r archif. Mae Umap yn cadw archif o drydariadau Cymraeg ond mae’n methu weithiau achos mae’n trio adnabod yr iaith sydd wedi cael ei defnydd.
1. Dw i wedi ei adeiladu. Cer i’w weld.
http://adolygiad.com
(dw i’n gwybod bod rhai ar goll, dw i’n eu mewnforio nhw ar hyn o bryd)

2. Bydd y wefan yn gasglu pob trydariad gyda’r tag #adolygiad – plis postia adolygiad i’w brofi. Bydd y trydariad yn dangos mewn awr (dw i ddim eisiau gofyn twitter.com yn aml iawn achos mae’n erbyn y termau i gadw archif). Hefyd dw i’n trystio pobol i beidio sbamio gyda’r tag. Bydd rhaid i ni edrych at olygu os mae pobol yn bostio pethau off-pwnc.

Bydd mwy o syniad yn bosib yn y dyfodol, e.e. mapio.

Mae’r syniad yn hollol arbrofol, croeso i ti sgwennu syniadau isod.

Diolch Nic Dafis am help ac i’r gymuned WordPress am feddalwedd GPL!

5 sylw

  1. Yn enwedig efallai dw i’n gallu ychwanegu ychydig mwy o rhyngweithio – ar hyn o bryd yr unig pethau sy’n symud ydy’r chwilio a dolenni fel ffefryn/aildrydaru ayyb ar y trydariadau (popeth yn Gymraeg!).

    Dw i wedi meddwl am sylwadau ar adolygiad.com neu botymau Hoffi ayyb. Ddim yn siwr os dw i eisiau creu cynnwys newydd ar adolygiad.com fel sylwadau. Os mae pobol eisiau ateb maen nhw yn gallu postio ar Twitter beth bynnag gyda’r tag.

  2. Wedi postio fy adolygiad cyntaf. Sgwn i os oes modd tynnu allweddeiriau allan yn awtomatig i wneud rhyw fath o taxonomy? Ma’r arbrawf wedi cydio dwi’n meddwl.

    Sdim angen sylwadau dwi’m yn meddwl, ond byddau dosbarthu’r adolygiadau yn ehangach yn fanteisiol. Rhoi exposure i’r adolygiad (a kudos i’r adolygydd) tu hwnt i ddilyn hashtag / mynd i’r wefan.

  3. Mae modd ond efallai mae’n haws i greu RSS o’r chwiliad Twitter. Ond basai dolen i adolygiad.com yn neis os wyt ti eisiau!

    Gweler y newidiadau heddiw (rhestr o adolygwyr): http://adolygiad.com

Mae'r sylwadau wedi cau.