Siroedd Cymru a blogiau Cymraeg

Rhys yn dweud:

Problem yw, dyw’r Rhestr ddim yn hollol gyflawn. Dydyn ni ddim yn gwybod lleoliad o’r rhan fwyaf o flogiau. Wrth gwrs mae rhai yn siarad am bynciau tu hwnt lleoliad y blog, e.e. gwyddoniaeth, coginio neu gwleidyddiaeth Cymru fel gwlad. Mae rhai o bobol yn hapus i flogio heb nodi lleoliad.

Dyma’r siroedd gyda’u blogiau, yn ôl Y Rhestr hyd yn hyn.
Blog o Abertawe (2 blog)
Blog o Flaenau Gwent (1 blog)
Blog o Gaerdydd (34 blog)
Blog o Gaerffili (6 blog)
Blog o Sir Gaerfyrddin (6 blog)
Blog o Gastell-nedd Port Talbot (1 blog)
Blog o Geredigion (16 blog)
Blog o Gonwy (3 blog)
Blog o Sir Ddinbych (2 blog)
Blog o Wynedd (16 blog)
Blog o Sir Benfro (1 blog)
Blog o Rhondda Cynon Taf (5 blog)
Blog o Ynys Môn (3 blog)

Felly mae 96 blog wedi cael eu nodi dan categorïau sir penodol
Paid anghofio’r 33 blog sydd wedi cael eu nodi fel Blog o du all i Gymru

Ond mae cyfanswm o 295 blog yn Y Rhestr.

Felly mae 166 blog heb lleoliad.

Efallai bydd rhai yn dod dan y categorïau uchod.

Efallai bydd rhai (gobeithio) yn dod dan y categoriau isod, siroedd heb blogiau, yn ôl Y Rhestr hyd yn hyn.
Bro Morgannwg
Casnewydd
Sir y Fflint
Sir Fynwy
Bwrdeistref sirol Merthyr Tudful
Pen-y-bont ar Ogwr
Powys
Torfaen
Wrecsam

Defnyddia Google Blog Search os ti eisiau chwilio am eithriadau! e.e. pentrefi ym Mhowys

Hyd yn oed gyda’r caveats uchod, dyw’r canlyniadau ddim yn edrych mor dda – yn enwedig achos rydyn ni’n siarad am hanes blogio Cymraeg hyd yn hyn yn gynnwys y blogiau sy’n cysgu.

Edrych fel does neb yn fodlon cynrychioli‘r llefydd yma, neu does dim lot – 3 blog Ynys Môn ac 1 o Sir Benfro yn hanes blogio Cymraeg?

Os ti eisiau dechrau blog nawr am unrhyw beth mae WordPress Cymraeg yn dda.

Diolch i Rhys am ddechrau’r sgwrs yma.

5 sylw

  1. Diolch am greu cofnod am hyn.

    Mi eiriais y trydariad fel y gwnes i gan yr oeddwn yn meddwl byddia’n ennyn ymateb (ni Gymry mor blwyfol!), a cafodd ei aildrydar gan sawl un, ces i ymateb gan flogiwr drwy Twitter yn dwed bod e flog o ar goll ac aeth eraill at Hedyn a gwirio manylion eu blogiau hwythau ac eraill – Canlyniad!

    Mae hefyd wedi procio fy nghof i am unai blogiau oedd heb eu cynnwys neu ble nad oeddynt wedi eu categoreiddio’n gyflawn eto, felly rwan mae gyda ni gynrychiolaeth ar gyfer Powys, Wrecsam, Sir y Fflint a Bro Morgannwg.

    297 blog ar y rhest erbyn hyn.

  2. Dwi’n gwrthwynebu braidd i’r categoreiddio yma. Alla’i ddim siarad am neb arall ond dyw lle dwi’n byw ddim i’w wneud a fy mlog i. Dwi ddim yn ‘cynrychioli’ Caerdydd nac yn canolbwyntio ar unrhyw gofnodion i wneud a’r lle (yn wahanol i flogiau sy’n benodol am aral fel Ein Caerdydd).

    Dwi ddim yn gweld fod blogiau yn gorfod adlewyrchu dosbarthiad daearyddol yr awduron. Mi fase’n i’n disgwyl fwy mewn llefydd fel Caerdydd oherwydd nifer uwch o fyfyrwyr ayyb. Mae’n werth gofyn pam nad oes fwy o flogiau o ardaloedd fel Gwynedd a Cheredigion ond dwi’n amau fod llawer o flogiau yn cael eu dechrau gan bobl ifanc tra eu bod nhw yn y coleg i ffwrdd o’i cynefin?

    Mae Twitter yn fwy addas ar gyfer y math yma o ddadansoddiad efallai.

  3. @Dafydd
    Gwrthwynebu categoreiddio ffwl stop, neu yn ol lleoliad yn benodol?

    Pwrpas y categori oedd jyst er mwyn i bobl sylwi bod blogwyr Cymraeg eraill yn byw yn eu mysg, ac falle hoffent drefnu rhyw flog-gwrdd lleol neu beth bynnag, dim byd arall.

    Trydarais fel y gwnes mond er mwyn cael ymateb a help gyda categareiddio pellach, nid er mwyn trio creu cystadleuaeth rhwng un ardal a’r llall (ac fei weithiodd). Nid ‘cynrychioli’ oedd y gair cywir falle.

    Ti newydd roi syniad i fi rwan am gategori arall – un yn ol galwedigaeth…..
    …OK, falle ddim.

  4. Dwi’n gwrthod categoreiddio ar leoliad heblaw fod y blog yn amlwg yn canolbwyntio ar ardal benodedig. Dwi ddim yn ei weld yn ddefnyddiol, heblaw fel astudiaeth academaidd. Dyw e ddim yn gwneud synnwyr i fi i wahaniaethu rhwng blog gan rywun yng Nghwynedd gyda blog rhywun yn Llundain neu blog o Japan er enghraifft. Blog Cymraeg ydi blog Cymraeg. (Os oedd posib ‘tagio’ blogiau yn y brif rhestr gyda un neu fwy o gategoriau (pwnc, lleoliad, ayyb) efallai fase’n i’n gwrthwynebu llai).

    Be ddigwyddodd i rhithfro.com lle’r syniad oedd gallu casglu awduron blogiau, falle creu map o leoliadau?

  5. Mae gwybodaeth lleoliad ar y we gyhoeddus felly rydyn ni’n ei ailddefnyddio ‘achos mae’n bosib’.

    Mae rhai yn canolbwyntio ar ardal ac mae rhai yn cyhoeddi’r lleoliad, e.e. ar yr ochr neu tudalen ynghylch ayyb.

    Ar y dechrau gwnaethon ni cytuno i beidio sgwennu unrhyw beth sydd ddim ar y blog eisoes. (Weithiau trwy ffrindiau rydyn ni’n gwybod y lleoliad ond y rheol yw, dim ond gwybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus.)

    Wrth gwrs does dim ots os mae 166 blog yn arnofio yn y gofod heb leoliad. Gwych.

    Ond dim blogiau byw yn Gymraeg sy’n gysylltiedig â Sir Benfro? C’mon.

    Rydyn ni wedi cael lot o sgyrsiau fel hyn. Mae’r project yn ‘top i lawr’. Fel y cyfeirlyfr Yahoo mewn ffordd.

Mae'r sylwadau wedi cau.