Darganfyddiad Gwirio Sillafu Cymraeg ar y Mac!

Mae gwirio sillafu ar y Mac di bod yn boen ers talwm, ond fel rwyf yn teipio hwn allan yn TextEdit mae’r llinellau coch yn ymddangos o dan y geiriau sydd wedi cael ei gamsillafu (mae na lot pan dwi’n teipio!)

Ond sut mae hyn yn bosib, mae TextEdit yn dibynnu ar geiriadur y sustem i wirio y sillafu? Wel am y tro cyntaf heddiw ar ôl i @Nwdls ofyn wrthyf sut i droi y llinellau coch i ffwrdd yn y Twitter app (does dim ffordd) fe es i’r System Preferences / Language & Text i weld be oedd yna. O dan y pennawd Text mae na dewislen Spelling ac yn waelod hwnw fe welwch Set Up… ag i mewn yn fyna mae’r frawddeg

“To add an additional spelling dictionary, copy the dictionary files (.aff and .dic) to the Spelling folder in your Library folder.”

Gan fy mod yn rhedeg Lion(10.7) mi oeddwn yn meddwl mai rhywbeth newydd oedd hwn, ond fe edrychais yn Snow Leopard(10.6) ag oedd yna hefyd! Duw a wyr ers faint mae’r optiwn yma di bod ar gael.

Felly dyma y camau i gael gwirydd sillafu Cymraeg o fewn sustem Mac OS X:

  1. Lawrlwythwch y geiriadur Cymraeg o OpenOffice (Yr un sy’n dweud Spelling 2004-04-25, mae reit ar waelod y tudalen).  Lawrlwythwch y ZIP oddiar fy nghwmwl i.
  2. Agor y zip. O fewn y zip mae’r feiliau .aff a .dic
  3. Copiwch y .aiff a .dic i fewn i ~Library/Spelling (os ydych yn rhedeg Lion y ffordd hawdd o gweld eich ffolder Library yw agor y Finder, mynd i Go yn y top, dal Alt i lawr ar y keyboard a fe welwch chi o yn ymddangos yn y canol.
  4. Mi ddylai fod Cymraeg (Library) yn dangos i fyny fel dewis yn y dewislen Spelling o dan y pennawd Text yn System Preferences / Language & Text.

*Diweddariad* – Fideo o’r broses.

Rwyf wedi testio hyn mewn sawl rhaglen rŵan ag mae i weld yn gweithio yn iawn, dwi ddim yn siŵr os mae’r Automatic by Language yn gweithio, efallai rhaid i mi ail ddechrau y Mac. Ond mae hyn yn mynd i fod yn help mawr i fi ag yn fy safio rhag gorfod agor Cysill o hyd.

Os ydych yn gwybod am geiriadur gwell na’r un OpenOffice neu am unrhyw triciau eraill i gael teipio yn Gymraeg yn haws ar y Mac gadewch i mi wybod.

Diweddariad 2

Gan fod fersiwn Open Office ddim ar gael bellach, lawrlwythwch y ZIP oddiar fy nghwmwl i.