Hacio’r Iaith Bach Caeryddd, 17.6.11
Mond byrbryd bach i fwydo porthiant y cyfrif Twitter.
Bydd criw bychan yn cwrdd ym mar Gwdihŵ, rhwng 1pm a 2pm. Croeso i bawb.
Diweddariad: Waw, am gyfarfod bach amser cinio llwyddiannus.
Daeth @nwdls @rhysjj @dafyddt @malpate @IwanEv @kopetatxuri @Marshallmedia @rhysw1 [a dau berson arall dw i'n rhy crap i gofio eu henwau
- ychwanegwch eich hunain yn blwch sylw]
…a siaradom gyda gyda @carlmorris dros speaker-phone!


Sioned / Llefenni 11:44 AM ar 17 Mehefin 2011 Dolen Barhaol
Hia bawb – yn anffodus allai’m bod yno, ond gobeithio gewch chi amser da!
Carl Morris 12:10 PM ar 17 Mehefin 2011 Dolen Barhaol
Dw i’n methu dod heddiw yn anffodus. Cariad i bawb! Mae rhywbeth dros ginio yn syniad da, efallai tro nesaf.
Rhys Wynne 12:46 PM ar 17 Mehefin 2011 Dolen Barhaol
Cariad i bawb! Mae rhywbeth dros ginio yn syniad da
Dw i’n deall mai mond digwydd bod yng Nghaeryddd heddiw am gynhadledd mae Rhodri a’r Rhys arall, ac mae’n ddigon hawdd i fi ddweud hyn gan mod i’n gweithio ganol ddinas, ond mae’n siwr bod tipyn go lew o fynychwyr digwyddiadau Hacio’r iaith erail lyn gweithio yng nghanol y ddinas.
Falle trefnu cael cinio yn Garlands dros fowlen o gawl unwaith y mis/ pob deufis i roi’r byd technolegol yn ei le?
Eniwe, gorfod mynd rwan, mai bron a bod yn 1pm. Gyda llaw, mae gwr arbennig am ymuno a ni heddiw. Cliw: ddim Mistar Urdd ydy o.
Rhys Wynne 2:25 PM ar 17 Mehefin 2011 Dolen Barhaol
Diolch i bawb am ddod. Neis cwrdd a wynebau newydd.
Broc môr / Cynhadledd Cyfrwng 2:41 PM ar 14 Gorffennaf 2011 Dolen Barhaol
[...] leiaf roedd hi’n bosib cael ambell i sgwrs o amgylch hyn e.e. sesiwn Hac Iaith bach a chlywed ambell i bapur diddorol. Post a comment — Trackback URI RSS 2.0 feed for these [...]